Ewch i’r prif gynnwys

Annog cefnogwyr i gefnogi ymchwil canser

2 Awst 2019

Principality Stadium

Anogir cefnogwyr sy'n mynd i ornest Manchester United yn erbyn AC Milan yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn i gefnogi ymchwil canser hanfodol Prifysgol Caerdydd.

Gwahoddir y rhai fydd yn bresennol i gyfrannu arian wrth iddynt gyrraedd Stadiwm Principality ar gyfer gêm Cwpan Rhyngwladol y Pencampwyr.

Bydd ymchwilwyr, myfyrwyr, staff a chynfyfyrwyr wrth law gyda chasgliad bwced. Bydd yr holl gyllid a dderbynnir yn mynd yn uniongyrchol at ymchwil hanfodol i wella triniaeth, diagnosis ac atal canser.

Dewiswyd yr achos gan Undeb Rygbi Cymru, sy'n cynnal y gêm.

Dywedodd yr Athro John Chester, Arweinydd Thema Ymchwil Canser ym Mhrifysgol Caerdydd: "Bydd eich cefnogaeth yn galluogi ymchwilwyr canser Prifysgol Caerdydd i gamu ymlaen ymhellach at wella dulliau diagnosis a thriniaethau i gleifion â chanser. Diolch o galon!"

Dywedodd TJ Rawlinson, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr: "Rydym yn ddiolchgar iawn i Undeb Rygbi Cymru am y cyfle i godi arian ddydd Sadwrn, i'r gwirfoddolwyr fydd yn ein helpu, ac i'r rhoddwyr fydd yn ein cefnogi. Gyda'n gilydd gall ein cymuned helpu i fynd i'r afael â chanser.

"Mae cyfle o hyd i gefnogwyr brwd ymchwil canser Caerdydd wirfoddoli i gasglu rhoddion yn y gêm ddydd Sadwrn (ebostiwch donate@caerdydd.ac.uk). Ac mae ychydig o leoedd ar ôl gennym o hyd i wirfoddolwyr redeg Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer yr un achos.

Mae ymchwil canser y Brifysgol yn canolbwyntio ar leihau baich byd-eang canser:

  • canfod targedau a thriniaethau canser newydd
  • dylunio ac arwain dyfeisiadau canser arloesol
  • gweithio ar ddiagnosis cynharach ac ar atal llawer o ganserau.

Gêm dydd Sadwrn yw'r cyfle olaf i Manchester United ac AC Milan fireinio eu sgiliau cyn i'r tymor newydd ddechrau.

Disgwylir torf fawr ar gyfer y gêm, sy'n dechrau am 17:30.

Dyma unig gêm baratoadol Manchester United yn Ewrop cyn eu gêm gyntaf yn Uwch-gynghrair Lloegr y tymor hwn.

Mae United a Milan yn ymuno â 10 clwb arall sy'n cymryd rhan yng Nghwpan Rhyngwladol y Pencampwyr.

Dysgwch ragor am ymchwil canser y Brifysgol a sut i gyfrannu.

Rhannu’r stori hon

Dysgwch fwy am sut mae Prifysgol Caerdydd wedi cael budd o fod â ffrindiau a chefnogwyr hael fel chi.