Rhedwch Hanner Marathon Caerdydd dros #TeamCardiff

Rhedwch yn ôl traed y goreuon a chodi arian ar gyfer Prifysgol Caerdydd yn Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd.
Fel rhan o #TeamCardiff, gallwch wneud gwahaniaeth. Bydd eich gwaith caled, eich hyfforddiant a'ch ymroddiad yn helpu i weddnewid bywydau er gwell.
Mae Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd / Caerdydd wedi'i gohirio, a bydd yn cael ei gynnal ar 3 Hydref 2021.
Lleoedd rhad ac am ddim ar gyfer codwyr arian - Ymunwch â #TeamCardiff
Dim ond nifer cyfyngedig o leoedd rhad ac am ddim sydd gennym ar gyfer ein codwyr arian - dewiswch eich achos a chofrestrwch i gymryd rhan.
Rydym ni'n gofyn i redwyr #TeamCardiff addunedu i godi o leiaf £200 i'ch dewis achos yn y Brifysgol (£150 i fyfyrwyr) Fel aelod o #TeamCardiff, byddwn mewn cysylltiad â chi gydag awgrymiadau ar sut i godi arian yn ogystal â chyngor hyfforddi er mwyn eich cynorthwyo i gyrraedd eich targed.
Bydd pob ceiniog o’r holl arian sy’n cael ei godi yn cael ei fuddsoddi yn uniongyrchol yn ymchwil flaenllaw’r Brifysgol. Ymchwil sy’n ysgogi newid - helpwch yn y frwydr yn erbyn y clefydau distrywiol yma.
Sut i ddechrau arni
Mynegwch eich diddordeb gyda ni a byddwn yn cysylltu i roi rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau’r broses gofrestru a hawlio eich lle am ddim ar #TîmCaerdydd.