Ewch i’r prif gynnwys

Pwyslais newydd ar Hanes Iddewig Modern

15 Awst 2019

Dr Jaclyn Granick

Mae Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd Prifysgol Caerdydd wedi croesawu ei darlithydd cyntaf mewn Hanes Iddewig Modern.

Rôl newydd Dr Jaclyn Granick yw’r un gyntaf i ymwneud â chyrsiau Hanes a Chrefydd fel ei gilydd, gan olygu y caiff myfyrwyr y ddwy raglen israddedig y cyfle i fynychu ei darlithoedd.

Mae Dr Granick yn arbenigo mewn gwleidyddiaeth a dyngarwch rhyngwladol Iddewig yn y 19ain a’r 20fed ganrif. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei llyfr ynghylch dyngarwch Iddewon yn ystod y Rhyfel Mawr ac wedi hynny. Caiff hwn ei gyhoeddi cyn bo hir gan Wasg Prifysgol Caergrawnt. Mae ymchwil Granick yn edrych ar sut y datblygodd dyngarwch Iddewig Americanaidd - ymdrechion i helpu dioddefwyr a ffoaduriaid Iddewig yn Nwyrain Ewrop a’r Dwyrain Canol yn dilyn rhyfel a phogromau - wrth i America ennill ei phlwyf ar y llwyfan rhyngwladol yng nghyfnod y Rhyfel Mawr.

Mae hi hefyd wedi bod yn canolbwyntio’n ddiweddar ar rywedd a rôl teuluoedd Iddewig blaenllaw. Bydd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil ar y cyd a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) o’r enw, “Plastai Iddewig yn y wlad - gwrthrychau, rhwydweithiau, pobl,” gyda’r Athro Abigail Green (Prif Ymchwilydd, Rhydychen), Dr Tom Stammers (Cyd-ymchwilydd, Durham), a phartneriaid y prosiect, sef yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Gymdeithas Ewropeaidd er Gwarchod a Hyrwyddo Diwylliant a Threftadaeth Iddewig, Waddesdon, a Strawberry Hill.

Meddai Dr Granick: “Mae mor gyffrous dechrau ar y swydd hon mewn hanes Iddewig a chyflwyno fy arbenigedd ynghylch profiad Iddewon yn y gorffennol agos i Gaerdydd a Chymru.

“Mae ysgolheigion ym meysydd Astudiaethau Iddewig wastad yn mynd i’r afael â chwestiynau sy’n ymwneud ag elfennau penodol a chyffredinol. Maent hefyd yn edrych ar sut y gall y profiad Iddewon fod o fudd wrth edrych yn feirniadol ar yr hyn sy’n wahanol ac yn gyffredin. Rwy’n edrych ymlaen at allu trafod y materion hyn gyda fy myfyrwyr Hanes a Chrefydd wrth iddynt ddysgu am Iddewon ac Iddewiaeth dros y canrifoedd diwethaf.

Ar ôl cwblhau BA yn Harvard, symudodd Dr Granick i Sefydliad Graddedig Astudiaethau Rhyngwladol a Datblygol yng Ngenefa, y Swistir, i wneud ei MA a PhD. Mae’n Ysgolhaig Fulbright ac yn un o Ysgolheigion Rhagoriaeth Llywodraeth y Swistir. Fe gynorthwywyd ei PhD hefyd gan Sefydliad Davis a chymrodoriaethau ymchwil yn y Ganolfan Hanes Iddewig a’r Archifau Iddewig Americanaidd.

Mae wedi bod yn yng Ngholeg San Pedr a’r Gyfadran Hanes ym Mhrifysgol Rhydychen ers 2015, yn gyntaf fel un o Gymrodorion Rhyngwladol Newton ac yna fel un o Gymrodorion Ôl-ddoethurol Hanadiv Ewrop Sefydliad Rothchild.

Bydd Dr Granick yn addysgu modiwl o’r enw, Y Rhyfel yn erbyn yr Iddewon: Antisemitiaeth, yr Holocost a Phrofiad Iddewon, o fis Medi ymlaen.

Meddai Pennaeth yr Ysgol, yr Athro James Hegarty: “Mae’n bleser gennym groesawu Dr Granick i’r Brifysgol. Mae’n llais blaenllaw ym maes Hanes Iddewig Modern. Mae ei rôl newydd yn dynodi cyfnod newydd i’r Ysgol ac yn dangos ein hymrwymiad i faes ymchwil pwysig a diddorol dros ben.

“Bydd myfyrwyr ar draws ein rhaglenni israddedig yn elwa’n fawr ar arbenigedd Dr Granick ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut bydd ei hymchwil yn esblygu ac yn llywio ein dealltwriaeth o’r cyfnod pwysig hwn.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.