Ewch i’r prif gynnwys

Cenhedlaeth Newydd o Feddylwyr

5 Mawrth 2019

Dr Emily Cock
Dr Emily Cock

Mae dau ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd ymhlith Cenhedlaeth Newydd o Feddylwyr eleni, yn rhan o fenter BBC Radio 3, BBC Arts a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).

Bydd yr hanesydd Dr Emily Cock a'r archeolegydd Susan Greaney, y ddwy o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, yn cael cyfle i rannu eu hymchwil drwy'r cyfryngau, gan wneud rhaglenni i Radio 3 a llwyfannau eraill y BBC, yn ogystal â chymryd rhan yng Ngŵyl Being Human 2019 a chyfrannu i'r cyfryngau ehangach drwy gyfrwng yr AHRC.

Mae'r Cydymaith Ymchwil Leverhulme Dr Emily Cock yn ymchwilio i agweddau newidiol at anffurfiad yr wyneb o'r 17eg ganrif tan y presennol.

Dywedodd Emily: "Rwyf i wrth fy modd yn cael y cyfle i rannu fy niddordeb mewn wynebau hanesyddol gyda chynulleidfa'r BBC, ac efallai herio pobl i feddwl sut rydym ni'n ymgysylltu â'n gwahaniaethau corfforol ni a phobl eraill yn ein bywydau bob dydd. Rwyf i hefyd yn edrych ymlaen at drafodaethau difyr gydag eraill o blith y Genhedlaeth Newydd o Feddylwyr ar draws y dyniaethau."

Susan Greaney
Susan Greaney

Mae'r ymgeisydd PhD a gyllidir gan yr AHRC Susan Greaney'n datguddio agweddau pobl Neolithig at y ddaear oddi tanynt a'r isfyd.

Dywedodd Susan: "Rwyf i'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'r BBC a rhannu fy ymchwil i gofadeiladau Neolithig gyda chynulleidfaoedd newydd, yn enwedig cyflwyno pobl i'r safbwyntiau a'r credoau cwbl wahanol am y byd a allai fod gan bobl yn y cyfnod cynhanes. Yn rhyfedd ddigon, gall y rhain helpu i herio ein canfyddiadau modern am sut rydym ni'n rhyngweithio gyda'r amgylchedd naturiol ac am ein perthnasoedd cymdeithasol anghyfartal."

Mae'r deg Meddyliwr terfynol yn 2019 hefyd yn hanu o Goleg Birkbeck, Coleg y Brifysgol Llundain, Prifysgolion Caergrawnt, Reading, Huddersfield, St Andrews a'r Royal Central School of Speech and Drama. Byddant yn ymuno â rhestr o 80 sydd yn y Genhedlaeth Newydd o Feddylwyr yn nawfed flwyddyn y fenter.

Bydd pob un o'r Genhedlaeth Newydd o Feddylwyr yn defnyddio eu hamser darlledu i arddangos cyfuniad bywiog o ymchwil ar draws y celfyddydau a'r dyniaethau gyda golwg ar danio dychymyg y cyhoedd.

Dywedodd yr Athro Andrew Thompson, Cadeirydd Gweithredol yr AHRC: “Mae cynllun y Genhedlaeth Newydd o Feddylwyr yn ymwneud â helpu'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr i ddod o hyd i gynulleidfaoedd newydd ac ehangach ar gyfer eu hymchwil, drwy roi llwyfan iddynt i rannu eu syniadau a chaniatáu lle iddynt i herio ein ffordd o feddwl.”

Dilynwch y Genhedlaeth Newydd o Feddylwyr ar Twitter: #NewGenerationThinkers

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.