Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant mewn tablau

1 Mai 2019

Cardiff University

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cadarnhau ei lle fel un o sefydliadau blaenllaw y DU ac wedi aros ar frig y rhestr o brifysgolion Cymru, yn ôl tablau diweddaraf The Complete University Guide 2020.

Yn y tablau cynghrair diweddaraf, mae’r Brifysgol wedi codi i’r 26ain safle yn gyffredinol yn y DU, sy’n gynnydd o saith safle, a chadw ei lle fel y brifysgol orau yng Nghymru.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi perfformio’r arbennig o dda o ran ‘rhagolygon i raddedigion’, gyda sgôr o 81.9 o’i gymharu â chyfartaledd genedlaethol o 75.5.

Yn ychwanegol at hyn, mae Cymru yn gyffredinol wedi goddiweddyd Dwyrain Canolbarth Lloegr fel yr ardal gyda’r myfyrwyr mwyaf bodlon.

Mewn rhestr o’r pynciau unigol, ymddangosodd y Brifysgol mewn 45 o’r 70 o bynciau a chafodd ei gosod ymysg y deg uchaf mewn 12 pwnc. Y rhai hynny oedd Pensaernïaeth; Astudiaethau Celtaidd; Peirianneg Sifil;  Cyfathrebu ac Astudiaethau Cyfryngau; Deintyddiaeth; Almaeneg; Technoleg Feddygol; Therapi Galwedigaethol; Optometreg; Fferylliaeth; Ffisiotherapi; Cynllunio Gwlad a Thref.

Roedd y Brifysgol yn gydradd gyntaf ar frig rhestr prifysgolion y DU ar gyfer iechyd galwedigaethol.

Mae’r Complete University Guide yn mesur dros 130 o brifysgolion y DU ar safonau mynediad, boddhad myfyrwyr, ansawdd ymchwil a rhagolygon i raddedigion a chaiff ei ddefnyddio gan nifer fawr o ymgeiswyr i brifysgolion i helpu i lywio eu penderfyniadau.

Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: “Rydw i mor falch o weld ein bod ni’n gwella ein safle ar lefel sefydliadol ac o ran pwnc ac yn cadw ein statws fel y brifysgol orau yng Nghymru.

“Mae’r canlyniadau yn brawf o berfformiad rhagorol y meysydd pwnc hyn yng Nghaerdydd, ac yn dangos ymrwymiad ac arbenigedd ein staff.”

Dywedodd Dr Bernard Kingston, Cadeirydd TheCompleteUniversityGuide.co.uk: “Mae’r dystiolaeth yn glir; mae’r pwyslais cynyddol, gan gynnwys cyllid, ar gyflogadwyedd a chynllunio gyrfa o fewn adrannau academaidd a gwasanaethau myfyrwyr yn dwyn ffrwyth.

“Mae hon bellach yn elfen ganolog o gynlluniau strategol nifer o sefydliadau, sy'n cyflwyno rhaglenni arloesol o ddigwyddiadau gyrfaoedd am bynciau penodol yn canolbwyntio ar fewnosod a chyfeirio at gyrchfannau graddedigion.

Rhannu’r stori hon

Dysgwch sut gallwch chi elwa o astudio yn un o brifysgolion mwyaf blaenllaw Prydain