Ewch i’r prif gynnwys

Ychydig iawn o’r cyhoedd o blaid llacio rheolau a rheoliadau ynghylch ffracio

1 Awst 2019

Image of fracking site

Mae arolwg newydd o agwedd y cyhoedd at ffracio’n dangos mai prin iawn yw’r gefnogaeth o blaid llacio rheolau a rheoliadau ynghylch ffracio – yn groes i ddatganiad allweddol gan gwmnïau echdynnu nwy siâl mawr.

Hefyd, fe ganfu’r tîm, gan gynnwys yr Athro Lorraine Whitmarsh o Brifysgol Caerdydd, nad yw pobl yn ymddiried yn y cwmnïau ynni perthnasol yn gyffredinol, a’u bod am i benderfyniadau gael eu gwneud ar lefel leol.

Mae’r arolwg annibynnol yn dangos mai dim ond 8% o bobl yn y DU sy’n credu bod y ‘System Goleuadau Traffig’ a ddefnyddir ar hyn o bryd i fonitro a rheoleiddio gweithgarwch seismig yn ystod ffracio’n rhy lym, a dim ond 22% sy’n cefnogi rheolydd llywodraeth y DU yn newid y trothwy o weithgarwch seismig y mae’n rhaid i hollti hydrolig ddod i ben y tu hwnt iddi, o 0.5 i 1.5 o faint.

Dyma ganlyniadau anghyfforddus i’r rheini sy’n galw ar reolydd y diwydiant, yr Awdurdod Olew a Nwy, i lacio’r rheolau a’r rheoliadau ynghylch ffracio. Ddechrau Gorffennaf, datganodd cwmni ynni Cuadrilla y bydd ffracio’n parhau ar ei safle yn Swydd Gaerhirfryn, gyda nod amlwg o gefnogi adolygiad technegol i gynyddu’r terfyn gweithgarwch seismig. Mae’r drilio ar y safle yn Swydd Gaerhirfryn wedi dod i ben ar sawl achlysur oherwydd daeargrydiau. Ar hyn o bryd, mae unrhyw ddaeargryd uwch na 0.5 o faint yn golygu bod yn rhaid i ffracio ddod i ben wrth i brofion gael eu cynnal.

Sefydliadau anllywodraethol, amgylcheddol fel Cyfeillion y Ddaear, Greenpeace, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a’r Ymgyrch dros Warchod Cefn Gwlad Lloegr yw’r prif ffynonellau gwybodaeth am echdynnu nwy siâl, gyda 48% yn defnyddio’r ffynhonnell hon ‘weithiau’ neu’n ‘aml’.

Dim ond 12% ddywedodd eu bod yn ymddiried yng ngrwpiau’r diwydiant nwy siâl i roi gwybodaeth am ffracio, a dim ond 11% ddywedodd eu bod am i lywodraeth y DU wneud y penderfyniadau ynghylch safleoedd echdynnu nwy siâl. Roedd 41% o’r rhai a gymerodd ran am i benderfyniadau ynghylch cydsyniad cynllunio gael eu gwneud ar lefel leol (e.e. y cyngor).

Arolwg Daearegol Prydain (61%) a gwyddonwyr prifysgolion (59%) yw’r ffynonellau gwybodaeth y gellir ymddiried ynddynt fwyaf, sy’n dwysáu’r angen am ymchwil annibynnol bellach i effaith amgylcheddol echdynnu nwy siâl.

Mae’r arolwg yn dangos bod 56% o bobl yn gwrthwynebu echdynnu nwy siâl yn gyffredinol, ac mae 32% o blaid, ac roedd 12% yn ansicr. Fel opsiwn am ynni i’r DU, ar hyn o bryd dim ond mymryn mwy o gefnogaeth sydd iddo (31%) na mewnforion pibell nwy Rwsiaidd (24%), o’i gymharu â 70% o blaid meysydd nwy alltraeth y DU, 59% o blaid drilio ar y tir heb hollti hydrolig, a 50% o blaid mewnforion Ewropeaidd.

Daeth yr Athro Lorraine Whitmarsh i’r casgliad: “Mae ein harolwg yn dangos nad yw pobl yn ymddiried yn y diwydiant ac mai prin yw’r gefnogaeth o blaid ffracio yn y DU; fodd bynnag, nid yw llawer o bobl wedi penderfynu eto, felly mae angen gwybodaeth glir a chytbwys i lywio trafodaethau a phenderfyniadau ynghylch y dechnoleg hon.”

Cynhaliwyd ‘Arolwg Cenedlaethol y DU am Agweddau’r Cyhoedd at Nwy Siâl’ gan academyddion mewn pum prifysgol, ac fe’i ariennir ar y cyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a’r Cyngor Ymchwil Gymdeithasol.