Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogaeth ysgubol ymhlith y cyhoedd ar gyfer camau gan y llywodraeth i fynd i'r afael â deunydd pacio na ellir ei ailgylchu

5 Tachwedd 2018

Truck on top of rubbish dump

Mae arolwg a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod tri chwarter o'r boblogaeth am i’r llywodraeth wneud yn siŵr bod modd ailgylchu a thrwsio cynhyrchion, a bod bron i 90 y cant o'r boblogaeth am i'r holl ddeunydd pacio fod yn ailgylchadwy.

Mae hon yn dystiolaeth bellach o bryderon cynyddol y cyhoedd ynghylch gwastraff, wrth i’r llywodraeth baratoi ei strategaeth gwastraff ac adnoddau gyntaf ers dros ddegawd.

Cynhaliwyd yr arolwg gan Brifysgol Caerdydd, fel rhan o brosiect y Ganolfan ar gyfer Deunyddiau, Ynni a Chynhyrchion Diwydiannol (CIEMAP). Mae CIEMAP, clymblaid o brifysgolion, wedi cyhoeddi’r ymchwil gyda’r felin drafod Green Alliance.

Mae ymchwil CIEMAP yn dangos mai’r polisïau mwyaf poblogaidd, sy’n arwain at ddylunio cynhyrchion a deunydd pacio gwell a chynnyrch sy’n para’n hirach, yw’r rhai sydd hefyd yn lleihau mwy o allyriadau carbon.

Gallai ailddylunio cynhyrchion i ddefnyddio llai o ddeunyddiau a llai o ddeunydd pacio leihau’r allyriadau sy’n gysylltiedig â chynhyrchion mwyaf cyffredin y cartref o dros 20 y cant. Gallai’r arbedon godi yn agos at 40 y cant pe bai’r cynhyrchion hefyd wedi’u creu i bara’n hirach a gellir eu rhannu trwy gynlluniau megis clybiau car neu Lyfrgell o Bethau Llundain.

Prif ganfyddiadau'r arolwg:

  • Mae bron i 90 y cant o'r boblogaeth (87 y cant) yn credu bod galw cryf neu gryf iawn i newid i fod yn gymdeithas sy’n defnyddio adnoddau yn fwy effeithiol. Dim ond 0.4 y cant sy’n credu nad oes angen o gwbl
  • Mae dwy ran o dair (65 y cant) o’r boblogaeth yn teimlo'n rhwystredig ynghylch cynhyrchion nad ydynt yn para
  • Mae tri chwarter (75 y cant) yn credu y dylai’r llywodraeth fod yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod busnesau'n creu cynhyrchion y gellir eu trwsio a’u hailgylchu
  • Mae 89 y cant yn credu y dylai’r holl ddeunydd pacio gael ei chreu o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu
  • Mae 81 y cant yn credu y dylai busnesau gynnig cymorth i drwsio, cynnal a chadw neu waredu ar gyfer eu cynhyrchion

Dywedodd Chris Stark, Prif Weithredwr y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd:“Mae’r DU wedi dangos bod modd lleihau allyriadau carbon a thyfu'r economi ar yr un pryd. Ond mae adroddiad diweddar IPCC ar gynhesu byd-eang o 1.5 gradd yn dangos bod angen dulliau newydd arnom i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chyrraedd net o sero. Mae effeithlonrwydd adnoddau yn cynnig ffordd newydd i’r llywodraeth dorri carbon, ac mae’r adroddiad yn dangos bod gan wneuthurwyr polisi fandad cyhoeddus i fwrw ati gyda’r gwaith.”

Dywedodd yr Athro Nick Pidgeon, o Brifysgol Caerdydd, arweinydd y tîm oedd yn cynnal yr ymchwil: “Roedd yn syndod pa mor gytûn oedd y bobl a gafodd eu holi ac a siaradodd â ni yn ein gweithdai. Roedd yn glir dros ben nad yw pobl yn hapus a’u bod eisiau gweld newid. Maent yn poeni am hyn o ddifrif. Maent yn gofyn am gynnyrch o ansawdd uwch ac am lai o wastraff. Mae gwella effeithiolrwydd adnoddau yn ffordd hawdd o sicrhau bod y cyhoedd yn ogystal â’r amgylchedd ar eu hennill.”

Rhannu’r stori hon