Ewch i’r prif gynnwys

Arloesedd mewn Busnes

10 Gorffennaf 2019

Innovation Impact
Left to right: Peter White, Qioptic Managing Director, Athanasios Goltsos, Research Associate, Dr Fionnuala Costello, Head of Open Programmes, Innovate UK, Professor Aris Syntetos, Director of PARC

Mae partneriaeth trosglwyddo gwybodaeth rhwng Ysgol Busnes Caerdydd a Qioptiq, cwmni ffotoneg blaengar yng ngogledd Cymru, wedi ennill anrhydedd Arloesedd mewn Busnes yn Seremoni Wobrwyo Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd eleni.

Yn y prosiect ar y cyd, rhannodd yr Athrawon Aris Syntetos a Mohamed Naim a Dr Thanos Goltsos, arbenigwr mewn rhagolygu rhestri eiddo ‘effeithlon’, eu harbenigedd i ddatblygu pecyn offer i ragolygu stocrestrau ‘ailweithgynhyrchu’.

Mae Qioptig, cwmni o Lanelwy, yn dylunio ac yn gweithgynhyrchu cynhyrchion ffotoneg yn ogystal ag atebion ar gyfer cwsmeriaid awyrofod a sectorau amddiffyn cenedlaethol a rhyngwladol.

Diolch i ymdrechion y tîm academaidd sy’n seiliedig ar ddiwydiant, maent wedi creu model busnes o'r radd flaenaf er mwyn hwyluso cadwyni cyflenwi mwy effeithlon, a gostwng costau drwy reoli stocrestrau yn well.

Dywedodd Peter White, Rheolwr Gyfarwyddwr Qioptiq: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr hon gydag Ysgol Busnes Caerdydd. Mae'n atgyfnerthu ein henw da hirsefydlog fel cwmni arloesol gydag agwedd ymarferol at arloesedd...”

“Drwy’r bartneriaeth, aethom ati i symleiddio ein cadwyn gyflenwi a defnyddio set newydd o declynnau i gefnogi ein gweithrediadau cyflenwi logisteg, Fe wnaeth hefyd ein galluogi i bennu galw'n fanwl, rhagfynegi'r arian a gaiff ei ennill a chynllunio archebion stocrestrau.”

Peter White Rheolwr Gyfarwyddwr Qioptiq

Ychwanegodd yr Athro Syntetos: “Mae’n deyrnged i bawb oedd ynghlwm â’r gwaith, o ymchwil eithriadol Thanos fel aelod cyswllt y bartneriaeth – gan ddod â manteision economaidd sylweddol i un o gwmnïau mwyaf arloesol Cymru – i oruchwyliaeth ymroddedig yr Athro Naim...”

“Ym marn Innovate UK, roedd y bartneriaeth yn 'rhagorol' – ac rydym wrth ein boddau bod ein gwaith ymchwil yn parhau i ennill y prif wobrau ac yn cyfrannu at fusnes mwy effeithlon a gwyrdd ar draws y byd.”

Yr Athro Aris Syntetos Distinguished Research Professor, DSV Chair

Mae gwaith ymchwil ar stocrestrau mwy effeithlon a chynaliadwyedd amgylcheddol yn alinio'n agos â strategaeth Gwerth Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd, gan adlewyrchu diddordeb cynyddol Llywodraethau Cymru a'r DU yn yr economi gylchol, cynaliadwyedd ac ad-weithgynhyrchu.

Trefnwyd y Gwobrau, a gynhaliwyd ar 3 Mehefin, gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, ac maent wedi bod yn hyrwyddo'r partneriaethau rhwng y Brifysgol â busnesau ers dros ugain mlynedd.

Rhannu’r stori hon

Am ragor o fanylion ar y broses cyllido ac ymgeisio.