Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr i Fusnes Mawr Cyfrifol y Flwyddyn

25 Gorffennaf 2019

Three people posing with award
Matt Appleby, Director of BITC Cymru alongside Dean Professor Rachel Ashworth and Professor Martin Kitchener

Roedd Ysgol Busnes Caerdydd yn un o naw sefydliad i gael eu cydnabod yng Ngwobrau Busnes Cyfrifol BITC Cymru, ddydd Iau 27 Mehefin 2019.

Roedd yr Ysgol yn erbyn Paneli Inswleiddio Kingspan, oedd hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer, ac ennill y Wobr ar gyfer Busnes Mawr Cyfrifol y Flwyddyn, y mae awydd mawr i’w hennill.

Mae cystadlu mawr am y gwobrau, sy’n cael eu hystyried yn safon aur cyflawniad busnes cyfrifol, ac maent yn cael eu marcio’n llym a’u sgorio’n annibynnol.

Dywedodd Yr Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: “Roedd mor braf gweld cyflawniadau fy nghydweithwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Busnes Cyfrifol Cymru...”

“Mae’r wobr yn dangos bod yr ethos Gwerth Cyhoeddus sydd gennym yn wir wedi taro tant yn y gymuned fusnes leol, ac mae’n cryfhau ein bwriad i helpu i sicrhau bod Cymru’n lle gwell, tecach a mwy cynaliadwy.”

Yr Athro Rachel Ashworth Deon Ysgol Busnes Caerdydd

“Felly fe hoffwn estyn diolch a llongyfarchiadau i bawb yn yr Ysgol am eu rôl yn y gwaith parhaus hwn.”

Gwobrau o fri

Cafodd y naw cwmni buddugol ganmoliaeth a gwobrau am eu gweithgaredd busnes cyfrifol mewn cinio a gynhaliwyd yng Ngerddi Sophia, Caerdydd.  Roedd dros 350 o gynrychiolwyr o fyd busnes, y Trydydd Sector a’r Llywodraeth yn bresennol yn y digwyddiad, oedd yng ngofal Lucy Owen o BBC Cymru Wales.

Woman presenting at podium
BBC Cymru Wales’ Lucy Owen presenting the awards

Dywedodd Matt Appleby, Cyfarwyddwr BITC Cymru: “Rydym ni’n falch bod ein gwobrau’n cael eu hystyried y safon aur ar gyfer busnesau cyfrifol.  Mae cystadlu mawr amdanynt, dydyn nhw ddim yn hawdd eu hennill, ac o ganlyniad maent yn gamp werthfawr...”

“Mae ein Gwobrau’n cydnabod cwmnïau sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol - yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn addysgol - ac yn gwobrwyo’r rhai sydd â diben cymdeithasol canolog clir. Mae’n wych gweld cynifer o gyflogwyr Cymru wedi ymrwymo i gyflawni twf a ffyniant cynaliadwy ledled Cymru.”

Matt Appleby Cyfarwyddwr BITC Cymru

Dyma oedd y naw categori o wobrau yn seremoni eleni: Busnes Mawr y flwyddyn, BBaCh y flwyddyn, yr Amgylchedd, Addysg, Ysbrydoli Doniau Ifanc, Llesiant yn y Gwaith, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Effaith Gwirfoddoli a Phartneriaeth Gymunedol.

Ymhlith yr enillwyr roedd Cymdeithas Tai’r Rhondda, a enillodd Wobr Llywodraeth Cymru ar gyfer BBaCh y Flwyddyn, Grŵp Pobl a hawliodd Wobr ACT Training am Ysbrydoli Doniau Ifanc, Heddlu De Cymru a enillodd Wobr Dŵr Cymru am Lesiant yn y Gwaith, Legal & General Wales a gafodd Wobr GE Aviation Wales am Amrywiaeth a Chynhwysiant, Bouygues UK a enillodd Wobr Addysg Grŵp Colegau CNPT, Grŵp Jehu a enillodd Wobr Wales & West Utilities am Bartneriaeth Gymunedol, Paneli Inswleiddio Kingspan, a enillodd Wobr Amgylcheddol Cymru, a Chymdeithas Adeiladu Principality, a enillodd y Wobr am Effaith Gwirfoddoli.

Award trophies in a row

Hefyd cafodd wyth cwmni eu hailachredu am eu hymrwymiad parhaus i fusnes cyfrifol:

  • Costain Ltd
  • ACT Training
  • Dŵr Mwynol Brecon Carreg
  • Cymdeithas Adeiladu Principality
  • Alun Griffiths (Contractwyr) Cyf
  • Trivallis
  • IKEA Caerdydd
  • Bwydydd Castell Howell

Ychwanegodd Matt Appleby: “Gydag uwch-gynhadledd amgylcheddol troi Gwastraff yn Gyfoeth yn cael lle amlwg yn y penawdau bythefnos yn ôl a’n gwobrau’n cael y fath ganmoliaeth yr wythnos hon, mae’n deg dweud bod gweithgarwch busnes cyfrifol, yn gwbl briodol, yn cael mwy a mwy o sylw.”

Rhannu’r stori hon

Rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn ymgorffori ein strategaeth gwerth cyhoeddus ar draws ein hymchwil, ein dysgu a'n llywodraethu.