Ewch i’r prif gynnwys

Rhagoriaeth i Lyfrgell Cerddoriaeth

26 Gorffennaf 2019

Row of scores in Music Library

Gwobr Rhagoriaeth 2019 i’n Llyfrgell Cerddoriaeth.

Cyflwynir y wobr Rhagoriaeth gan Gymdeithas Ryngwladol Llyfrgelloedd Cerddoriaeth pob tair blynedd, ac mae’n cydnabod gweithgarwch mewn llyfrgelloedd cerddoriaeth sy’n dangos gwaith da parhaus ac arfer da gyda’r posibilrwydd iddo gael ei fabwysiadu gan eraill.

Dywedodd beirniaid y gystadleuaeth ei bod hi’n “llyfrgell rhagorol gyda staff sy’n llawn syniadau creadigol ar gyfer datblygu’r llyfrgell ac ymgysylltu â’i defnyddwyr.

“Mae arddangosiad trylwyr o arfer da, datblygiad ac arloesedd, yn ogystal â llawer o bwyntiau dymunol, dynol ac atyniadol.

Mae dros 3,000 o gyfnodolion, 9,000+ o lyfrau a 18,000 o sgoriau cerddoriaeth yn ein llyfrgell ymchwil cerddoriaeth.

Yn dilyn adborth diweddar gan fyfyrwyr, llwyddodd y llyfrgell i sicrhau bod meddalwedd Sibelius ar gael i fyfyrwyr Cerddoriaeth ar unrhyw gyfrifiadur yn y llyfrgell ar draws y Brifysgol.

Ar hyn o bryd, mae’r llyfrgell yn cynnig cymorthfeydd galw heibio gyda’r Llyfrgellydd Pwnc ac yn rhoi ‘Gwobr Defnyddiwr Llyfrgell y Flwyddyn’ yn flynyddol i ddefnyddiwr llyfrgell ragorol ac ymroddedig yn ei flwyddyn olaf o’i astudiaeth israddedig.

Yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr a gynhaliwyd yn ddiweddar, daeth yr Ysgol Cerddoriaeth i’r brig ymhlith adrannau cerddoriaeth Grŵp Russell am Adnoddau Dysgu.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.