Ewch i’r prif gynnwys

Boddhad cyffredinol o 96%

9 Gorffennaf 2019

Two international students at piano

Mae'r Ysgol Cerddoriaeth wedi llwyddo i gael cyfradd boddhad cyffredinol o 96% yn yr Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS) diweddaraf.

Cyhoeddir Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn flynyddol, ac mae'n arolygu myfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn olaf ac yn gofyn iddynt asesu eu profiadau yn y brifysgol mewn meysydd sy’n cynnwys safon addysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd a datblygiad personol.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae'r sgôr ragorol hon yn gosod Prifysgol Caerdydd ar frig prifysgolion Grŵp Russell, grŵp o 24 o brifysgolion blaenllaw yn y DU, ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr Cerddoriaeth.

Yn ogystal â'r gyfradd boddhad cyffredinol wych, llwyddodd yr Ysgol hefyd i gael y sgorau uchaf ymhlith prifysgolion Grŵp Russell ar gyfer categorïau sy'n cynnwys asesu ac adborth, adnoddau dysgu a'r gymuned ddysgu.

Yn ddiweddar, dathlodd yr Ysgol lwyddiant wrth gyrraedd safle rhagorol yn nhablau cynghrair y Guardian a'r Complete University Guide, yn safle 16 a 12 yn y drefn honno. Mae'r ffigurau diweddaraf hefyd yn dangos bod 100% o raddedigion yr Ysgol yn 2017 naill ai mewn cyflogaeth a/neu mewn astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio.

Dywedodd Dr Daniel Bickerton, Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig yr Ysgol Cerddoriaeth: "Nid ydym yn cymryd y canlyniadau rhagorol yn ganiataol ac rydym bob amser yn ceisio gwneud yn siŵr bod llais gan bob myfyriwr a'u bod yn gwneud cynnydd da.

"Unwaith eto, mae'r canlyniadau yn enghraifft o ymrwymiad ein staff gweithgar i wneud yn siŵr bod ein myfyrwyr yn manteisio ar eu rhaglen gradd. Rydw i'n arbennig o falch o'n sgôr boddhad uchel ar gyfer Asesu ac Adborth, sy'n golygu ein bod ni yn gyntaf yng Ngrŵp Russell ar gyfer y categori hwn.

"Cafwyd sylwadau gan fyfyrwyr am y system tiwtor personol ragorol, cyfleoedd dysgu amrywiol gartref a thramor, staff cefnogol sy'n mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau gofynnol i helpu myfyrwyr a chreu awyrgylch cymunedol, a pha mor wych yw ein gwasanaethau iechyd a lles.

"Mae'r NSS yn ddangosydd pwysig ar gyfer datblygu a gwella sefydliadau addysg uwch, ac rydym yn gwerthfawrogi'r cyfle i ymateb i adborth myfyrwyr.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.