Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr y Flwyddyn Gwobr Caerdydd

6 Mehefin 2018

Lauren Thornell gyda’i gwobr Myfyriwr y Flwyddyn
Lauren Thornell gyda’i gwobr Myfyriwr y Flwyddyn

Yn ddiweddar, dyfarnwyd gwobr Myfyriwr y Flwyddyn Gwobr Caerdydd 2018 i Lauren Thornell, myfyriwr yn yr Ysgol Cerddoriaeth.

Ddydd Mawrth 8 Mai, daeth myfyrwyr a staff ar draws y Brifysgol ynghyd i ddathlu blwyddyn fwyaf lwyddiannus Gwobr Caerdydd hyd yma.

Dyfarnwyd gwobr Myfyriwr y Flwyddyn i Lauren, sy’n fyfyriwr ail flwyddyn yn yr Ysgol Cerddoriaeth, am ei phortffolio eithriadol o weithgareddau allgyrsiol. Cwblhaodd dros 700 awr o weithgareddau allgyrsiol yn ystod ei chyfnod ar y rhaglen, sy’n llawer uwch na'r isafswm o 70 awr oedd yn ofynnol.

Ar ôl treulio amser yn gwirfoddoli gyda Heddlu De Cymru, mae Lauren wedi nodi llwybr gyrfa ar ei chyfer a chafodd ei phenodi’n gwnstabl arbennig yn ddiweddar. Bydd yn dechrau ei hyfforddiant yn yr haf tra’n parhau i astudio ar gyfer ei gradd.

Yn ôl yr Athro Ken Hamilton, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth: "Mae staff a myfyrwyr yn yr Ysgol Cerddoriaeth wedi bod wrth eu bodd o glywed am lwyddiant Lauren — mae’n gyflawniad aruthrol mewn maes hynod gystadleuol."

Rhaglen hybu cyflogadwyedd strwythurol Prifysgol Caerdydd yw Gwobr Caerdydd. Mae’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gael cydnabyddiaeth am y sgiliau a enillir drwy weithgareddau allgyrsiol.

Eleni, cwblhaodd 330 o fyfyrwyr y rhaglen hon ac ymgymryd â 73,771 o oriau o weithgareddau allgyrsiol i gyd - y nifer uchaf erioed.

Mae cwblhau'r Wobr yn helpu myfyrwyr i wella eu proffesiynoldeb a'u cyflogadwyedd. Mae hefyd yn eu helpu i ragori mewn marchnad recriwtio hynod gystadleuol ymhlith graddedigion.

Cyflwynodd yr Athro Karen Holford, Rhag Is-Ganghellor araith yn y seremoni wobrwyo i longyfarch y myfyrwyr a'r staff ar flwyddyn lwyddiannus dros ben. Rhoddodd Daniel Harborne, Myfyriwr y Flwyddyn Gwobr Caerdydd 2017 gyflwyniad am ei ddatblygiad proffesiynol ers cwblhau'r Wobr. Ar hyn o bryd, mae Daniel ar leoliad gwaith yn Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd fel cynorthwy-ydd ymchwil ac fe gyflwynodd bapur yn ddiweddar mewn cynhadledd yn Orlando, Florida.

Gwobr Caerdydd

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.