Ewch i’r prif gynnwys

Hwb i berfformiad elusennau Cymru

28 Mehefin 2019

lots of people with their hands in the air

Mae myfyrwyr o Ysgol Busnes Caerdydd wedi bod yn defnyddio eu gwybodaeth busnes yn ymarferol drwy gynorthwyo chwe elusen Gymreig fel rhan o'r dewis gwobrwyedig Ymgynghori Rheoli ar Raglen MBA Caerdydd.

Mae'r fenter, a gaiff ei rhedeg mewn cydweithrediad â'r ymgynghoriaeth arloesi a thrawsnewid, PA Consulting, yn gweld myfyrwyr yn gweithio gyda nifer o elusennau lleol i gynhyrchu a datblygu syniadau busnes newydd y gellir eu rhoi ar waith a'u gweithredu gan dimau rheoli'r elusennau.

Mae'r ymgynghori a'r gefnogaeth wedi bod yn amrywiol, o helpu i ddatblygu strategaethau busnes newydd i fwydo cynllun cynhwysiad digidol.

Gweithio yn y byd go iawn

Eleni, bu myfyrwyr yn gweithio gyda sefydliadau yn cynnwys: Repair Café Wales; The Autism Directory; Bullies Out; Benthyg; Herio Cymru; Ynni Cymunedol Cymru.

Dywedodd Dr Joe O’Mahoney,  Athro yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae'r prosiect hwn wedi caniatáu i'n myfyrwyr gael profiad o waith ymgynghori yn y byd go iawn yn y trydydd sector, a rhoi rhywbeth yn ôl i gymuned Cymru yr un pryd. Maen nhw wedi cael cyfle i gyfuno gwybodaeth am adnoddau dynol, marchnata, strategaeth a chyfrifyddu...”

“Mae gan lawer o'n myfyrwyr brofiad gwaith blaenorol sylweddol ac mae gan bob un wybodaeth drylwyr am fusnes a damcaniaeth rheoli: mae hyn wedi gadael iddyn nhw ddod â syniadau ffres i'r elusennau dan sylw.”

Yr Athro Joe O'Mahoney Professor

Dros bedair wythnos, bu'r myfyrwyr yn gweithio gyda'u helusennau penodedig i'w helpu i oresgyn rhai o'r heriau strategol a rheolaeth maen nhw'n eu hwynebu yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

Cyngor proffesiynol o ansawdd uchel

Helpodd PA Consulting i ffurfio'r fenter a darparu hyfforddiant i'r myfyrwyr ar sut i ymgysylltu â'u cleientiaid trydydd sector, a'u grymuso i ddarparu cyngor proffesiynol o ansawdd uchel.

Ychwanegodd Graeme Pauley, arbenigwr Dadansoddeg Strategaeth yn PA Consulting: “Rydym ni wedi annog a chefnogi'r fenter Gwerth Cyhoeddus arloesol hon o'r dechrau...”

“Mae'n gyfle gwych i helpu arweinwyr busnes yfory i ddysgu am sector sy'n gynyddol hanfodol a chydweithio i gefnogi achosion da lleol. Unwaith eto rydym ni wedi cael argraff dda iawn o ddyfeisgarwch, amrywiaeth, cymhelliant a chyflawniad pawb a fu'n rhan o'r gwaith.”

Graeme Pauley Arbenigwr Dadansoddeg Strategaeth yn PA Consulting

Dywedodd Emma Thomas, o BulliesOut: “Bu BulliesOut yn gweithio gyda thri grŵp hynod frwdfrydig o fyfyrwyr a gynhyrchodd waith rhagorol ar sail y briff a roddwyd iddyn nhw gan yr Elusen...”

“Roeddem ni wrth ein bodd fod un o'r grwpiau y buom ni'n gweithio gyda nhw hefyd wedi ennill y wobr ymgynghori sy'n dangos eu gwaith caled a'u proffesiynoldeb. Roedd y gefnogaeth gan y Brifysgol mewn perthynas â'r prosiect hwn yn rhagorol.”

Emma Thomas BulliesOut

Mae'r myfyrwyr bellach yn dechrau ar eu traethawd estynedig terfynol, gan weithio'n unigol gyda chwmnïau ar draws de Cymru ar brosiect busnes ymarferol sy'n gwella effeithiolrwydd gweithrediadol y cwmni lletyol.

Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn ymrwymo i strategaeth gwerth cyhoeddus blaengar sy'n hyrwyddo gwelliannau economaidd a chymdeithasol. Nod addysgu gwerth cyhoeddus yn yr Ysgol yw ceisio trosglwyddo ymdeimlad moesegol a dychymyg cydymdeimladol i fyfyrwyr tuag at heriau cymdeithasol ac economaidd yr oes sydd ohoni.

Mae menter Ymgynghori Rheoli’r MBA yn enghraifft ragorol o'r ffordd mae dealltwriaeth busnes, gwybodaeth a sgiliau'r myfyrwyr yn helpu i wella ymarfer busnes a'r trydydd sector, gan sicrhau budd cymdeithasol i gymunedau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Darllenwch fwy am y dewis Ymgynghori Rheoli, a chenhadaeth gwerth cyhoeddus yr Ysgol.

Rhannu’r stori hon

Find out more about the ways in which your organisation can work with our students, including placements and live projects.