Ewch i’r prif gynnwys

Dewis penseiri o fri ar gyfer canolfan mathemateg a chyfrifadureg gwerth £23m

27 Medi 2017

Aerial shot of campus

Mae’r penseiri a enillodd y fedal aur yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn mynd i fod yn gweithio gyda phractis rhyngwladol o fri i greu canolfan ragoriaeth gwerth £23m i Brifysgol Caerdydd.

Bydd Penseiri Stride Treglown yn gweithio gydag Adjaye Associates, a sefydlwyd gan Syr David Adjaye OBE, i greu cartref ar y cyd ar gyfer yr Ysgol Fathemateg a’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.  Ym mis Ebrill dewiswyd Syr David yn bensaer mwyaf dylanwadol y byd gan gylchgrawn Time, ac fe’i rhestrwyd ymhlith eu 100 person mwyaf dylanwadol yn 2017.

Ar hyn o bryd mae’r ddwy Ysgol mewn mannau gwahanol, felly bydd y cyfleuster newydd yn dod â hwy at ei gilydd. Bydd yr union leoliad yn cael ei benderfynu.

Ymhlith y manteision mae cyfleusterau sydd ymhlith y gorau yn y byd, a adeiladwyd at y diben, ar gyfer myfyrwyr a staff, amgylchedd creadigol ar gyfer gwaith ymchwil effaith uchel ar y cyd rhwng y ddwy Ysgol a chyfle i lunio rhaglenni astudio newydd arloesol.

Dewiswyd y cwmni dylunio ac ymgynghoriaeth Arcadis i arwain y gwaith o ddylunio ac adeiladu’r cyfleuster 10,000msg, sydd i gael ei gwblhau yn 2021.

Yr gwaith mwyaf i uwchraddio campws Prifysgol Caerdydd ers cenhedlaeth

Mae'r ganolfan newydd yn rhan o’r gwaith mwyaf i uwchraddio campws Prifysgol Caerdydd ers cenhedlaeth – buddsoddiad o £600m yn ei dyfodol.

Mae’r Brifysgol yn creu Campws Arloesedd gwerth £300m, gan wario £260m ar brofiad y myfyrwyr, a buddsoddi £40m mewn mentrau a fydd yn hybu twf yn yr economi a diwydiant.

Meddai’r Athro Rudolf Allemann, Dirprwy Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: “Mae hwn yn gyfle unigryw i ddarparu’r cyfleusterau diweddaraf ar gyfer ein myfyrwyr a’n staff...”

“Bydd lleoli'r ddwy Ysgol yn yr un ganolfan ragoriaeth yn darparu cyfleoedd ar gyfer mwy o gydweithio ac ymchwil sy'n arwain y byd, yn ogystal â darparu rhaglenni astudio newydd a fydd yn gwella profiad y myfyrwyr ac yn gwella’u rhagolygon cyflogaeth.”

Yr Athro Rudolf Allemann Pro Vice-Chancellor, International and Student Recruitment and Head of the College of Physical Sciences and Engineering

Meddai'r Athro Tim Phillips, Pennaeth yr Ysgol Fathemateg: “Bydd yr adeilad newydd sy’n gartref i’r Ysgol Fathemateg a Chyfrifiadureg a Gwybodeg yn gartref ardderchog ar gyfer y ddwy ddisgyblaeth yn agos at ganol campws y Brifysgol.

“Bydd cyd-leoli’r ddwy ysgol yn creu amgylchedd academaidd sy’n gallu cynnal addysgu arloesol ac ymchwil ryngddisgyblaethol effaith uchel...”

“Bydd hefyd yn hwyluso cychwyn grwpiau ymchwil newydd yn y man cyfarfod rhwng y ddwy ddisgyblaeth.”

Yr Athro Tim Phillips Head of School

Meddai’r Athro Stuart Allen, Pennaeth yr Ysgol Gyfrifiadureg a Gwybodeg: “Bydd meithrin rhyngweithio rhwng staff a myfyrwyr ar draws y ddwy ddisgyblaeth yn ganolog i ethos a dyluniad yr adeilad newydd.

“Bydd cyd-leoli yn ein galluogi i ddenu a chadw cymuned ymchwil ryngddisgyblaethol fywiog i fynd i'r afael â heriau ymchwil allweddol ym meysydd deallusrwydd artiffisial, diogelu a gwyddor data...”

“Bydd yr amgylchedd dysgu ac addysgu pwrpasol yn gwella'r cyfleoedd i fyfyrwyr weithio gydag arbenigwyr o'r ddwy ddisgyblaeth i ddatblygu’r sgiliau datrys problemau sy'n ofynnol gan y diwydiant.”

Yr Athro Stuart Allen Reader

“I greu llwyfan deinamig ar gyfer cydweithio rhyngddisgyblaethol, ymchwil ac arloesi”

Mae Adjaye Associates, sydd â swyddfeydd yn Llundain ac Efrog Newydd, wedi gweithio ar sawl prosiect rhyngwladol proffil uchel gan gynnwys Ysgol Reoli Moscow, Amgueddfa Genedlaethol Hanes Affricanaidd America y Smithsonian yn Washington DC ac Amgueddfa Celf Gyfoes Latfia.

Meddai Lucy Tilley, Cyfarwyddwr Cysylltiol Prosiectau’r Deyrnas Unedig a Byd-eang yn Adjaye Associates: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i greu llwyfan deinamig ar gyfer cydweithio rhyngddisgyblaethol, ymchwil ac arloesi. Bu creu mannau grymusol ar gyfer addysg, cymuned a dysgu yn greiddiol i’n gwaith erioed.”

Mae Ysgol Busnes Bryste ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr Bryste a’r Ganolfan Cyfansoddion Genedlaethol ymhlith yr adeiladau arloesol y mae Stride Treglown Architects wedi’u dylunio, ac mae ganddynt swyddfeydd ledled y DU gan gynnwys yng Nghaerdydd.

Image of large letters spelling out Eisteddfod

Enillodd y practis y Fedal Aur am Bensaernïaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni am ddylunio Ysgol Bae Baglan, yr ‘ysgol wych’ newydd ym Mhort Talbot.

Meddai Pierre Wassenaar, Cyfarwyddwr yn Stride Treglown: “Rydym yn gydweithwyr naturiol, ac mae'n ymddangos yn arbennig o briodol bod y gwaith o gynllunio adeilad sy’n dod â dwy ysgol at ei gilydd am y tro cyntaf yn cael ei dylunio mewn partneriaeth gan ddau bractis.”

Mae Arcadis yn y Deyrnas Unedig yn gweithio gyda sefydliadau ar draws sawl sector ac mae ei bortffolio yn cynnwys rheoli prosiect y gwaith £1bn i drawsnewid Maes Awyr Manceinion a’r rôl ddylunio arweiniol ar gyfer prosiect Gorsaf London Bridge, sydd hefyd yn werth £1bn.

Meddai Steven Jenkins, Arweinydd Addysg Uwch Arcadis: “Prifysgol Caerdydd yw un o sefydliadau addysg uwch mwyaf blaenllaw y Deyrnas Unedig, a chan fod ganddi gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ehangu yn ystod y blynyddoedd nesaf, bydd cyflawni’r ganolfan ragoriaeth newydd hon yn gam pwysig tuag at helpu’r Brifysgol i gyrraedd ei nodau.”

Rhannu’r stori hon

Rydym yn datblygu’r campws ar hyn o bryd yn rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf ar y campws ers cenhedlaeth - buddsoddiad o £600m yn ein dyfodol.