Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol wedi'i hysbrydoli gan ddiwylliant Cymru

22 Gorffennaf 2019

Eisteddfod 1

Bydd Prifysgol Caerdydd yn edrych ar ddiwylliant Cymru yn y gorffennol a'r presennol yn Eisteddfod Genedlaethol 2019 Conwy.

Bydd digwyddiadau yn edrych iaith, barddoniaeth, treftadaeth, hunaniaeth Gymraeg a llawer mwy, ym mhabell y Brifysgol ar y Maes.

Bydd gwyddoniaeth hefyd yn amlwg, gydag ymwelwyr i'r babell a'r Pentref Gwyddoniaeth yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol sy'n arddangos ymchwil ac addysgu'r Brifysgol.

Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys trafodaeth flynyddol y Brifysgol ynghylch y cyfryngau gan gynnwys cyflwyno prif weithredwr newydd Golwg, Siân Powell. Byddwn hefyd yn croesawu ein gwasanaeth newyddion digidol Llais y Maes yn ôl ac yn cynnal dadansoddiad o berfformiad economaidd Cymru.

Mae presenoldeb y Brifysgol yn rhan o'n hymrwymiad 'cenhadaeth ddinesig' i ddiwylliant Cymru a'i hiaith.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol 2019 yn Llanrwst rhwng 3 a 10 Awst 2019.

Mae nifer o weithgareddau'r Brifysgol yn edrych ar agweddau o'r iaith Gymraeg, gan gynnwys y cyfle i edrych ar adnodd iaith pwysig - y Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC).

Mae'r corpws yn nesáu at ei darged o 10 miliwn o eiriau Cymraeg cyfoes a chaiff ei arddangos cyn cael ei lansio'n llawn blwyddyn nesaf.

Mae digwyddiadau CorCenCC yn cael eu cynnal ddydd Mawrth 6 Awst a dydd Mercher 7 Awst ym mhabell Prifysgol Caerdydd ac ar yr un diwrnodau ym mhabell y Cymdeithasau.

Bydd Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Dr Dylan Foster Evans, yn edrych ar y defnydd o'r iaith fel y gwelir ar waliau, graffiti a chestyll. Cynhelir y sgwrs ddydd Iau 8 Awst.

Bydd yr athronydd gwleidyddol Dr Huw Williams, Deon y Gymraeg yn y Brifysgol, yn edrych ar gyfnod hynod ddiddorol o hanes Cymru sy'n berthnasol i gynulleidfa fodern.

Bydd stori Dr Williams yn dechrau yn yr 16eg ganrif gydag un o gyn-drigolion enwog Llanrwst ac ysgolhaig o Gymru, William Salesbury, sy'n fwyaf adnabyddus am ei waith yn cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Cyffredin i'r Gymraeg.

Cynhelir Cymru, Lloegr a Llanrwst: Hunaniaeth gyfoes trwy ddrych y dyneiddwyr Cymreig ym mhabell y Brifysgol ar ddydd Iau 8 Awst.

Os ydych erioed wedi cnoi cil ar hanfodion barddoniaeth Cymraeg, nod enillydd Cadair Eisteddfod 2017 Osian Rhys Jones yw chwalu ambell fyth yn ei sgwrs ddydd Mercher 7 Awst.

Bydd ei wibdaith drwy gynghanedd yn galluogi ymwelwyr i ddysgu am y ffurf hon o farddoniaeth Gymraeg sy'n cael ei dathlu, yn ogystal â’i chamddeall ar adegau.

Mae trafodaeth Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) eleni yn ystyried dyfodol newyddiaduraeth brint yng Nghymru gyda phanel blaenllaw o arbenigwyr yn y diwydiant, gan gynnwys prif weithredwr newydd Golwg, Siân Powell.

Roedd Sian yn arfer bod yn fyfyriwr ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd yn dechrau yn ei rôl newydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod, felly bydd disgwyl eiddgar i glywed ei barn am y diwydiant. Cynhelir y digwyddiad ddydd Gwener 9 Awst ym mhabell y Brifysgol.

Mae gwasanaeth newydd digidol y Brifysgol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, Llais y Maes, lle mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant, yn dychwelyd ar gyfer y seithfed flwyddyn.

Bydd dau o 'raddedigion' Llais y Maes, Liam Ketcher ac Elen Davies, sydd bellach yn gweithio i ITV Cymru, yn cefnogi'r myfyrwyr ac yn rhannu eu sgiliau.

Mae'r uchafbwyntiau eraill yn cynnwys:

  • Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau'r Brifysgol yn edrych ar ddyluniad meddyginiaethau arloesol y dyfodol mewn trafodaeth fywiog (dydd Llun 5 Awst, pabell Prifysgol Caerdydd); mae'r Sefydliad hefyd yn egluro'r daith drwy'r broses o greu meddyginiaethau newydd (dydd Sadwrn 3 Awst tan ddydd Mawrth 6 Awst, Pabell Gwyddoniaeth)
  • Gwasanaethau’r heddlu, llysoedd barn, a charchardai sydd wedi wynebu rhai o’r toriadau mwyaf ers dechrau’r mesurau cyni yn 2010 Ymunwch â Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar gyfer darlith a dadl am wariant cyhoeddus ar y system gyfiawnder yng Nghymru (dydd Llun 5 Awst, pabell Prifysgol Caerdydd).
  • Guto Ifan a Cian Siôn, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, yn trafod sut mae llymder wedi effeithio ar wariant awdurdodau lleol Cymru a'r DU; effaith trethi datganoli; a rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus (dydd Mawrth 6 Awst, Pabell y Cymdeithasau 1)
  • Mewn partneriaeth a'r Gymdeithas Strôc, bydd myfyrwyr Meddygol Prifysgol Caerdydd yn mesur eich pwysau gwaed, ac yn cynnig cyngor (dydd Mawrth 6 Awst a dydd Mercher 7 Awst, pabell Prifysgol Caerdydd)
  • Dr Andrew Connell, o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yn esbonio sut gellir atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru (dydd Mawrth 6 Awst, pabell Prifysgol Caerdydd)
  • Yr Athro Arwyn Jones fydd yn cyflwyno darlith wyddoniaeth Eisteddfod Genedlaethol eleni. Bydd yn trafod sut y gwnaeth penbyliaid Dyffryn Conwy ysbrydoli ei angerdd dros fioleg yn ystod ei fagwraeth yn Llanrwst, a'i daith ymchwil ryngwladol a ddeilliodd o hynny (dydd Iau 8 Awst, Pabell y Cymdeithasau 2)
  • Gwahoddiad i gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd i dderbyniad sy'n cynnig cyfle iddynt gwrdd â chynfyfyrwyr eraill, cymdeithasu a rhannu straeon o'u hamser yng Nghaerdydd a'u bywydau ers gadael (dydd Gwener 9 Awst, pabell Prifysgol Caerdydd)

Unwaith yn rhagor, mae gan Brifysgol gyfres o weithgareddau ymarferol hwyl ac addysgiadol ym Mhentref Gwyddoniaeth yr Eisteddfod:

  • Ewch i'r Arddangosfa Gwrthgyrff Gwych i ddysgu, gyda chymorth dafad amhrisiadwy o'r enw Darwen, sut mae gwrthgyrff yn ein gwarchod rhag chwilod a sut mae'n ein helpu ni i greu meddyginiaethau gwrthgyrff
  • Mae gennym ni i gyd waed coch a glas, ond nid yw'r ddau fath yr un peth – darganfyddwch sut y mae gwrthgyrff yn nodi'r math o waed sydd gennych a sut mae rhoi gwaed yn arbed bywydau
  • Darganfyddwch pam mae gan wenyn mêl bwerau hudol a sut y maent yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr o Gymru
  • Rhowch sioc i'ch ffrindiau a theuluoedd gyda chlwyfau realistig wedi'u peintio gan Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Prifysgol Caerdydd
  • Darganfyddwch briodweddau anhygoel polymerau, sy'n gallu cael eu defnyddio i wneud cewynnau sy'n amsugno dŵr, peli rygbi sy'n gwrthsefyll dŵr a deunyddiau ar gyfer gwella bodau dynol.

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw rhoi cyfle i’n myfyrwyr astudio a byw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.