Astudiaeth ddeintyddol yn ennill gwobr fawreddog
18 Gorffennaf 2019
Mae'r Athro Ivor Chestnutt, o'r Ysgol Deintyddiaeth, wedi ennill gwobr Cymdeithas Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Ddeintyddol (IADR) 2019 am y papur gorau a gyhoeddwyd yn y Journal of Dental Research.
Derbyniodd Wobr fawreddog William J. Gies, yn y categori ymchwil glinigol, am ei astudiaeth ‘Sêl neu Farnais?’
Yn rhan o astudiaeth 'Sêl neu Farnais?', a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, cafodd mwy nag 800 o blant eu trin naill ai â sêl tyllau neu farnais fflworid i weld pa driniaeth oedd yn cynnig y gwerth gorau am arian ar gyfer plant rhwng 6 a 7 oed.
Canfu'r tîm fod rhoi farnais fflworid ar ddannedd plant yr un mor effeithiol ar gyfer atal pydredd dannedd â'r dull amgen o selio dannedd, a gallai arbed arian i'r GIG.
Mae gwobr William J. Gies yn cynnwys dyfarniad ariannol o $1,000 USD a phlac. Maent yn agored i unrhyw un sy'n cyhoeddi yn y Journal of Dental Research, cyhoeddiad swyddogol yr IADR/AADR.
Mae Journal of Dental Research IADR/AADR yn gyfnodolyn amlddisgyblaethol sy'n ymroi i ledaenu gwybodaeth newydd ym mhob gwyddor sy'n berthnasol i ddeintyddiaeth, ceudod y geg a strwythurau cysylltiedig mewn iechyd a chlefydau.