Ewch i’r prif gynnwys

Marciau uchaf

11 Gorffennaf 2019

Image of male academic handing over a book to female postgraduate student
Dr Dimitris Potoglou and Orla Lenehan

Mae Orla Lenehan, myfyrwraig MSc Trafnidiaeth a Chynllunio, wedi’i chydnabod am ei pherfformiad academaidd eithriadol.

Enillodd Orla y marciau uchaf ar gyfer y gydran o’r rhaglen Feistr a addysgir a chafodd ei llongyfarch gan Gyfarwyddwr y Rhaglen Dr Dimitris Potoglou.

Dywedodd: “Mae Orla wedi cael canlyniad gwych ar gyfer y gydran o’r rhaglen Trafnidiaeth a Chynllunio a addysgir ac mae hi’n ei llwyr haeddu. Mae hi wedi dangos gallu gwych a dyfalbarhad, wedi gweithio’n hynod o galed ac wedi ymgysylltu’n ddeallus ac yn greadigol â’r cynnwys. Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddi wrth iddi ganolbwyntio ar ei thraethawd hir.”

Cafodd Orla gopi o lyfr yr Athro Emeritws Huw Williams yn rhodd, Forecasting Urban Travel Past, Present and Future, a enillodd Wobr Goffa William Alonso am Waith Arloesol mewn Gwyddoniaeth Ranbarthol.

Ychwanegodd Dr Potoglou: “Hoffwn ddiolch i’r Athro Williams am rhoi copi o’i lyfr gwych, sy’n gosod yr agenda, i ni ei roi fel gwobr, ac am gefnogi ein myfyrwyr a’u datblygiad.”

Yn dilyn y cyflwyniad, dyweddodd Orla: “Dechreuodd fy niddordeb mewn trafnidiaeth pan oeddwn yn ifanc iawn, wedi’i amlygu mewn chwilfrydedd am lwybrau bysys a chyrchfannau trenau. Mae'r hobi hwn a oedd gennyf i yn blentyn wedi llunio fy nodau gyrfaol i’r dyfodol - i gyfrannu at gynllunio, rheoli a llunio polisïau systemau trafnidiaeth o fewn y Deyrnas Unedig a bod yn gysylltiedig â datblygu systemau'r dyfodol.”

Fe raddiodd Orla gyda BSc mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth yn 2016. Cafodd fwrsari Brian Large o Gronfa Fwrsari Brian Large yn 2018 er mwyn ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi wedi derbyn swydd yn ddiweddar fel Cynllunydd Cludiant Graddedig gyda Arcadis, cwmni dylunio ac ymgynghori sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd.

Fe ddyfarnwyd Ysgoloriaeth Ymchwil Tsieina Prifysgol Caerdydd i Rongqui Song, y myfyriwr a berfformiodd orau y llynedd, ac fe fydd yn dychwelyd i’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio er mwyn ymgymryd â chwrs PhD gyda Dr Potoglou yn Hydref 2019.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.