Ewch i’r prif gynnwys

Bwrsariaeth fawreddog ar gyfer myfyriwr Gradd Feistr

16 Tachwedd 2018

Mae myfyriwr MSc mewn Trafnidiaeth a Chynllunio, Orla Lenehan, wedi derbyn un o Fwrsariaethau Gradd Feistr Brian Large 2018 er mwyn ariannu ei hastudiaethau ôl-raddedig.

Mae'r cyllid, sy'n gyfanswm o £7,000, yn un o ddim ond tair bwrsariaeth a ddyfarnwyd ledled y DU eleni gan Gronfa Bwrsariaeth Brian Large a sefydlwyd yn 1990 mewn teyrnged i Brian Large, un o gyfarwyddwyr Grŵp MVA (ymgynghorwyr cynllunio trafnidiaeth).

Bwriad y bwrsariaethau yw "galluogi myfyrwyr nad oes ganddynt ddigon o arian arall i astudio'n llawn amser heb yr angen i ymgymryd â gwaith cyflogedig yn ystod oriau astudio arferol y Brifysgol". Fe'u dyfernir i barhau â gwaith Brian gan gefnogi datblygiad proffesiynol a sgiliau'r rheini sydd yn ystod camau cynnar eu gyrfaoedd a sicrhau y gall myfyrwyr cymwys gwblhau eu hastudiaethau ym maes trafnidiaeth a chynllunio.

Cafodd Orla, a enillodd ei gradd israddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, ei llethu wrth dderbyn y fwrsariaeth: "Dwi'n cofio bod yn hollol fud pan ges i’r e-bost yn fy hysbysu bod Bwrsariaeth Brian Large wedi’i dyfarnu i mi. Pan lwyddais yn y pen draw i ddod o hyd i'm llais, cysylltais â'm holl deulu a ffrindiau i ddweud y newyddion da wrthyn nhw; y gallwn i, mewn gwirionedd, ddechrau yn y Brifysgol ym mis Medi ac na fyddai'n rhaid imi ohirio na gadael."

“Mae’r Fwrsariaeth yn fwy nag yn anrhydedd mawr. Hebddo, mae'n debygol na fyddwn wedi bod yn gallu gwneud cwrs Meistr eleni neu fe fyddwn wedi peryglu fy astudiaethau'n ddifrifol trwy straen a rhwymedigaethau i ymgymryd â gwaith cyflogedig."

Orla Lenehan

Mae Orla'n llawn cyffro am y flwyddyn i ddod ac yn ddiolchgar ei bod yn gallu dilyn ei diddordeb mewn cludiant yn yr Ysgol Ddaearyddiaeth a Chynllunio: “Dechreuodd fy niddordeb mewn trafnidiaeth pan oeddwn yn ifanc iawn, wedi’i amlygu mewn chwilfrydedd am lwybrau bysys a chyrchfannau trenau. Mae'r hobi hwn a oedd gennyf i yn blentyn wedi llunio fy nodau gyrfaol i’r dyfodol - i gyfrannu at gynllunio, rheoli a llunio polisïau systemau trafnidiaeth o fewn y Deyrnas Unedig a bod yn gysylltiedig â datblygu systemau'r dyfodol.

"Ar ôl cryn dipyn o waith ymchwil, roeddwn i'n teimlo bod Caerdydd yn cynnig y rhaglen Gradd Feistr berffaith i mi, a bron deufis i mewn i'm hastudiaethau, rwy'n gwybod fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir. Mae'r rhaglen MSc mewn Trafnidiaeth a Chynllunio yn borth i mewn i'm gyrfa ddewisedig ac rwy'n hynod ddiolchgar i Ymddiriedolwyr Cronfa Bwrsariaethau Brian Large am ganiatáu i mi ddychwelyd i addysg a chyflawni fy uchelgeisiau."

Eleni, derbyniodd pedwar o fyfyrwyr MSc Trafnidiaeth a Chynllunio arian gan grwpiau allanol. Yn ogystal ag Orla, llwyddodd tri o raddedigion diweddar yr Ysgol Ddaearyddiaeth a Chynllunio i sicrhau Bwrsariaethau Rees Jeffreys i ariannu eu hastudiaethau.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.