Ewch i’r prif gynnwys

Cyfoeth Naturiol Cymru yn penodi athro o Brifysgol Caerdydd yn Ddirprwy Gadeirydd

12 Awst 2019

Image of Steve Ormerod sat by a river

Penodwyd academydd blaenllaw o Brifysgol Caerdydd, yr Athro Steve Ormerod, yn Ddirprwy Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru - corff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu defnyddio a'u rheoli mewn ffordd gynaliadwy.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw sefydliad amgylcheddol pwysicaf Cymru gyda dros 1900 o staff a chyllideb flynyddol o £180 miliwn. Mae'n gyfrifol am roi cyngor i'r llywodraeth, rheoleiddio amgylcheddol, rheoli adnoddau naturiol, ymateb i ddigwyddiadau, monitro amgylcheddol, a rheoli 7% o arwynebedd tir Cymru.

Mae'r Athro Ormerod yn arbenigwr ar ecosystemau dŵr croyw ac, yn ogystal â bod yn Athro Ecoleg yn Ysgol y Biowyddorau, mae hefyd yn Gyd-Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr blaenllaw Prifysgol Caerdydd.

Yn ystod gyrfa ymchwil o bron i 40 mlynedd, mae’r Athro Ormerod wedi bod mewn sawl rôl proffil uchel. Mae’r rhain yn cynnwys Cadeirydd y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, Llywydd Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheoli Amgylcheddol, Cadeirydd Panel Cynghori Amgylchedd Dŵr Cymru, a Chadeirydd yr unig elusen i anifeiliaid di-asgwrn-cefn yn Ewrop, ‘Buglife’.

Wrth siarad am ei rôl newydd, dywedodd yr Athro Ormerod: “Mae ein polisi amgylcheddol yng Nghymru yn creu tueddiadau ar draws y byd, gyda phersbectif hirdymor sy'n integreiddio lles pobl, ecosystemau a natur.

“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wrth wraidd y broses o droi'r persbectif hwnnw yn weithredoedd a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae cael y cyfle i helpu i arwain y genhadaeth hon yn anrhydedd enfawr ac yn her fawr - yn enwedig ar adeg pan mae angen gweithredu amgylcheddol ar frys.”

Ychwanegodd yr Athro Jim Murray, Pennaeth Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: “Mae'n bleser gennyf longyfarch yr Athro Ormerod ar ei rôl newydd yn Ddirprwy Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Fel gweddill y byd, mae Cymru yn wynebu nifer o heriau amgylcheddol, ac mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru rôl bwysig i'w chwarae o ran datblygu strategaethau cadwraeth sy’n cael effaith go iawn. Rwy'n sicr y bydd gwybodaeth ac arbenigedd ymchwil yr Athro Ormerod yn y maes hwn yn werthfawr iawn, gan helpu i wella gwytnwch ac ansawdd ein hecosystemau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Ymchwil Dŵr.