Ewch i’r prif gynnwys

Cyfran gweithlu Cymru sydd yn y sector cyhoeddus yn cyrraedd lefel hanesyddol o isel

19 June 2019

Nurse

Mae cyfran gweithlu Cymru sy’n cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus wedi cyrraedd lefel hanesyddol o isel.

Yn eu hadroddiad diweddaraf, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn datgelu bod 20% o gyflogeion yng Nghymru, yn 2018, yn gweithio yn y sector cyhoeddus, sydd wedi gostwng o ffigur uchaf o 27.4% yn 2009.

Er bod nifer y bobl sy’n gweithio yn y GIG wedi codi, gwelwyd gostyngiadau sylweddol yn nifer y rhai a gyflogir mewn llywodraeth leol. Y GIG bellach sy’n gyfrifol am y gyfran uchaf o gyflogau sector cyhoeddus yng Nghymru, gan oddiweddyd llywodraeth leol am y tro cyntaf yn 2016-17.

Yn wahanol i ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig, mae gweithwyr sector cyhoeddus yng Nghymru yn ennill mwy na gweithwyr sector preifat. Yn 2017-18 yng Nghymru, roedd yr enillion blynyddol cyfartalog £3,413 (13.5%) yn uwch yn y sector cyhoeddus, tra bod yr enillion blynyddol cyfartalog £2,252 (7.7%) yn uwch yn y sector preifat ar draws y Deyrnas Unedig.

Er bod cyfran y rhai yng Nghymru sy’n cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus wedi gostwng, mae’n dal yn uwch na ffigur cyffredinol y Deyrnas Unedig, sef 16.6%.

Dywedodd Cian Sion, cynorthwy-ydd ymchwil Dadansoddiad Ariannol Cymru (Wales Fiscal Analysis): “Mae canran gweithlu Cymru sy’n gyflogedig yn y sector cyhoeddus yn sylweddol is na degawd yn ôl. Mae hon yn symptom anochel i’r wasgfa barhaus ar wariant cyhoeddus.

“Ond mae ein gwaith ymchwil yn dangos ei fod yn dal yn ffynhonnell arbennig o bwysig o gyflogaeth yma. Er bod yr enillion yn y sector preifat yn is nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig, mae’r sector cyhoeddus yn darparu nifer fawr o swyddi medrus am gyflog da.”

Mae’r adroddiad, Y Sector Cyhoeddus yng Nghymru, hefyd yn dangos y canlynol:

  • Rhwng 2005-06 a 2017-18, bu gostyngiad o 2,493 (9.5%) yn nifer yr athrawon CALl, tra bod nifer y cynorthwywyr addysgu wedi codi 9,336 (193.6%), gan adlewyrchu cyflwyno cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen.
  • Mae benywod 28 gwaith yn fwy tebygol o gael eu cyflogi fel cynorthwy-ydd addysgu yn y sector cynradd na dynion. Yn y cyfamser, gostyngodd cyfran yr athrawon gwryw cymwysedig a’r cynorthwywyr addysgu o 25% yn 2005-06 i 18.8% yn 2017-18.
  • Yn 2017-18, roedd bil cyflogau Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol yn £7.8bn. Roedd cyflogau sector cyhoeddus y GIG yn £3.63bn, neu gyfran o 46.3%, tra bod llywodraeth leol yn £3.55bn, neu gyfran o 45.4%.
  • Yn 2017-18, gweithlu cyfunedig byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd lleol GIG Cymru oedd 79,916. Cynyddodd nifer y staff yn ymddiriedolaethau’r GIG 3,021% (neu 56%) rhwng a 2009-10 a 2017-18. Cododd lefel y cyflogeion mewn byrddau iechyd lleol yn llai sydyn o 2,914, neu 4.2%.
  • Mae’r gwariant ar staff asiantaethau yn y GIG bron wedi dyblu ers 2009-10. Yn 2017-18, gwariwyd £107.4m ar draws GIG Cymru ac Ymddiriedolaethau’r GIG, sef 4.3% o gyfanswm y costau cyflogeion, sef cynnydd o gymharu â 2% yn 2009-10. Mae hynny er mai dim ond 1.8% o’r gweithlu cyfan yw staff asiantaethau. Ar ei lefel uchaf yn 2016-17, roedd y gwariant ar staff asiantaethau yn £162.1m.
  • Mae costau cyflogeion llywodraeth leol wedi gostwng yn sylweddol ers 2009, a gwelwyd y gostyngiad mwyaf sydyn mewn meysydd sy’n ymwneud â chynllunio a datblygiad economaidd (27%) a diwylliant, treftadaeth a llyfrgelloedd (26.4%).
  • Bu gostyngiad o 534 (9.6%) yn nifer cyflogeion Llywodraeth Cymru rhwng 2014-15 a 2017-18. Mae’r gwariant ar gyflogau fel cyfran o gostau cyflogeion wedi gostwng o 75.7% i 73.4% rhwng 2014-15 a 2017-18.

Ychwanegodd Cian Sion: “Wrth i Gymru ymgymryd â phwerau treth newydd hanesyddol, ynghyd â’r gallu i bennu cyflogau athrawon, mae hwn yn gyfnod defnyddiol i gymryd stoc o sut mae bil cyflogau’r sector cyhoeddus yn newid.

“Mae codi’r cap cyflog ar y sector cyhoeddus a chynyddu costau pensiwn yn ddiweddar yn golygu bod pwysau sylweddol i ddod o ran costau. Bydd angen gwneud penderfyniadau difrifol ynghylch sut mae cynnal a datblygu’r ffynhonnell aruthrol bwysig hon o gynhaliaeth i weithlu Cymru.”

Share this story

We undertake innovative research into all aspects of the law, politics, government and political economy of Wales, as well the wider UK and European contexts of territorial governance.