Ewch i’r prif gynnwys

Arloesedd sy’n Ysbrydoli

22 Mai 2019

Mae darlithydd sy’n dysgu'n rhan-amser yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, yr Ysgol Ieithoedd Modern a’r Ganolfan Addysg Barhaus a Phroffesiynol, wedi cael ei gydnabod am ei addysgu arloesol yng Ngwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr 2019 (yr ESLAs).

Enillodd Dr Craig Gurney y wobr am yr Aelod Staff mwyaf arloesol am yr ail flwyddyn yn olynol.   Cyrhaeddodd y rhestr fer hefyd ar gyfer yr Aelod Staff Mwyaf Ysbrydoledig.

Mae enwebiadau’r ESLAs, sydd yng ngofal Undeb Myfyrwyr Caerdydd, yn cael eu gwneud gan y myfyrwyr presennol, ac maen nhw’n gyfle iddynt gydnabod staff, neu gyd-fyfyrwyr, sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’w hastudiaethau a’u profiad cyffredinol fel myfyrwyr.

Cafodd Dr Gurney naw enwebiad fel yr Aelod Staff mwyaf arloesol a naw enwebiad am yr Aelod Staff mwyaf ysbrydoledig.  Darllenwyd enwebiadau gan Helen Walbey (MSc Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol) a Joseph Healy (MSc Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol) yn y cinio Gwobrwyo.

Ardystiad myfyrwyr

Roedd enwebiad Helen ar gyfer yr aelod staff mwyaf arloesol yn cynnwys y gosodiadau canlynol:

“Mae Craig yn enillydd haeddiannol dros ben gan ei fod wedi rhoi’r myfyrwyr yng nghanol y profiad dysgu, gan sicrhau bod sylw’n cael ei roi i bob arddull ddysgu wahanol, ac nad oedd yr un myfyriwr yn cael ei adael ar ôl.   Roedd yn bleser ymgysylltu â’i ddosbarthiadau ac roedden nhw bob amser yn llawn, er mai dyna oedd dosbarth olaf y dydd i ni.”

“Nid mater o ddefnyddio technoleg yw arloesedd, ond dod â’r pwnc yn fyw mewn ffordd sy’n ennyn eich diddordeb. Y peth mwyaf trawiadol oedd bod y dosbarth yn llawn bob wythnos, a hynny er nad oedd ‘rhaid’ i ni fod yno, oherwydd ei fod yn cael ei recordio. Roedd y myfyrwyr wir eisiau bod yno, gan eu bod nhw’n mwynhau, ac roedden ni’n elwa cymaint o’r profiad byw, wyneb yn wyneb.  Roeddwn wrth fy modd yn mynd i’w ddosbarth, ac mae’n wir wedi fy ysbrydoli i ddal ati i ymchwilio a dysgu yn y maes yma.”

Aeth ei henwebiad ymlaen i sôn am ddefnydd Dr Gurney o’r holl dechnoleg oedd ar gael yn y dosbarth, ei ddefnydd o offeryn ymateb y gynulleidfa, y ‘mentimeter’, i hwyluso cyfranogiad a thrafodaeth, a’i ddefnydd o gymhorthion diriaethol, fel lein ddillad, wrth addysgu.

Wrth ymateb i’w lwyddiant, dywedodd Dr Gurney: “Mae hon yn anrhydedd fawr.   Fe ges i nghyffwrdd yn fawr bod y myfyrwyr wedi rhoi o’u hamser ac wedi gwneud ymdrech i’m henwebu yn ystod blwyddyn anodd pan oeddwn i’n cydbwyso ymrwymiadau addysgu ar draws tair ysgol wahanol.  Soniodd llawer o’r myfyrwyr am y lein ddillad.  Trosiad yw hwn y gwnes i ei ddatblygu yn un o’m darlithoedd yn y modiwl Sylfeini Ymchwil yn y Gwyddorau Cymdeithasol.  Rwy’n defnyddio lein ddillad i esbonio safbwyntiau athronyddol cyferbyniol ar natur realiti a’r berthynas rhwng y rhain a sut mae cwestiynau ymchwil yn cael eu fframio.  Rwy’n hongian y lein ddillad yn y ddarlithfa, ac yna’n defnyddio pegiau i roi llieiniau sychu llestri arni er mwyn cynrychioli gwahanol safbwyntiau ar hyd continwwm.   Mae’n rhywbeth ychydig yn wahanol, ac mae’n ymddangos bod y myfyrwyr yn gallu ymateb yn llawer gwell i hynny na diagramau mwy statig ar ffurf PowerPoint.”

Cyflwynwyd y gwobrau mewn seremoni arbennig ddydd Iau 9 Mai yn y Neuadd Fawr, Plas y Parc.

I weld rhestr lawn o’r pymtheg enillydd, ewch i wefan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.