Ewch i’r prif gynnwys

Darlithydd yn cipio gwobr arloesi

11 Mai 2018

Dr Craig Gurney yn eistedd mewn darlithfa ac yn dal y wobr
Dr Craig Gurney a'r wobr ar gyfer yr Aelod Staff Mwyaf Arloesol

Mae Dr Craig Gurney wedi ennill Gwobr Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr 2018 ar gyfer yr Aelod Staff Mwyaf Arloesol.

Enwebwyd Dr Gurney, sy'n dysgu rhan amser yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio a gydag Addysg Barhaus a Phroffesiynol Prifysgol Caerdydd, gan y myfyriwr MSc Willow Leonard-Clarke.

Nododd enwebiad ysgrifenedig Willow fod addysgu Dr Gurney yn wirioneddol arloesol ac yn gwneud defnydd o amrywiaeth eang o dechnoleg i gefnogi'r amcanion addysgu, a sut roedd "Craig yn gwneud job wych o nodi amwysedd a gwrthddweud yn y gwyddorau cymdeithasol gan egluro'r gwahaniaethau a naws termau a syniadau. Roedd hyn yn hynod o werthfawr i fy helpu i ymwneud â llenyddiaeth academaidd yn gyffredinol a gwella fy ysgrifennu."

Roedd yr enwebiad hefyd yn ymdrin â hyblygrwydd ac ymatebrwydd yr addysgu gyda Willow yn tynnu sylw at sut roedd Dr Gurney'n addasu ei addysgu "i'n hanghenion a'n hadborth ni, gan gynnwys newid yr ystafell roeddem ni ynddi." Diweddodd Willow yr enwebiad drwy egluro ei bod wedi enwebu Dr Gurney er mwyn "dweud diolch am y gwaith aruthrol oedd yn amlwg y tu cefn i bob agwedd o'i fodiwl i roi'r profiad dysgu gorau y gallem ni ei gael."

Derbyniodd Dr Gurney ei wobr mewn cinio a seremoni a gynhaliwyd yn Neuadd Fawr Undeb y Myfyrwyr ddydd Iau 3 Mai 2018. Y Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Karen Holford fu'n llywyddu'r noson.

Gan ymateb i'w wobr, dywedodd Dr Gurney: "Fel llawer o gydweithwyr eraill yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, roeddwn i'n falch iawn i gael fy enwebu am wobr.

"Rwyf i wrth gwrs wrth fy modd fy mod wedi ennill ac yn teimlo'n wylaidd wrth weld yr enwebiad meddylgar a chroyw a gyflwynwyd gan Willow Leonard-Clarke oedd yn nodi pa mor effeithiol iddi hi oedd fy nefnydd o'r dechnoleg sydd bellach ar gael mewn llawer o'n hystafelloedd addysgu. Helpodd defnydd o gipio darlithoedd, delweddwyr data, microffonau crwydrol ac apiau cyfraniad cynulleidfa fel menti.com i ymgysylltu â deunydd y ddarlith a hwyluso dadlau a thrafodaeth."

"Caiff y modiwl Sylfeini Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol ar y rhaglen MSc Dulliau Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol ei addysgu i fyfyrwyr ar draws Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ac mae'n defnyddio astudiaethau achos o amrywiaeth o ddisgyblaethau gwahanol i ddangos canlyniadau mabwysiadu safbwyntiau epistemolegol cyferbyniol. Mae'n wych gwybod bod y garfan hon - cynulleidfa soffistigedig a chraff yn feirniadol - yn gwerthfawrogi fy ymdrechion."

Caiff y Gwobrau eu rhedeg gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ac fe'u cynlluniwyd i gydnabod a dathlu cyfraniad staff academaidd a chynrychiolwyr myfyrwyr wrth greu profiad cefnogol a bywiog i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.