Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabyddiaeth gan fyfyrwyr i ddarlithydd poblogaidd

2 Mai 2019

Mae Dr Craig Gurney ar y rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr 2019.

Mae Dr Gurney, sy’n dysgu'n rhan-amser yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, yr Ysgol Ieithoedd Modern a’r Ganolfan Addysg Barhaus a Phroffesiynol, ar y rhestr fer yn y categori Aelod Staff Mwyaf Arloesol, gwobr a enillodd yn 2018, a’r Aelod Staff Mwyaf Ysbrydoledig. Gwneir enwebiadau gan fyfyrwyr presennol sy’n aros yn ddienw tan i’r gwobrau gael eu cyhoeddi.

Mae’r Gwobrau, sydd yn eu degfed flwyddyn bellach, yn cael eu cynnal gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Cawsant eu creu i gydnabod a dathlu cyfraniad staff academaidd a chynrychiolwyr myfyrwyr o ran cynnig profiad ysgogol, cefnogol a dynamig i fyfyrwyr.

Eleni, cafwyd 750 o enwebiadau. Mae’r rhain wedi’u cyfyngu i dri enwebiad yr un ar gyfer pob un o’r 12 categori.

Cyhoeddir y gwobrau mewn seremoni ar 9 Mai.

Yn ymateb i’w enwebiadau ar ddwy restr fer, dywedodd Dr Gurney: “Mae hon yn anrhydedd annisgwyl. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r myfyrwyr a roddodd o’u hamser ac a aeth i’r drafferth i ysgrifennu eu henwebiadau ac i dîm Llais y Myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr am eu gwaith caled yn trefnu’r gwobrau hyn ac yn dosbarthu mygiau i’r holl enwebeion.

“Rydw i wedi treulio llawer o amser eleni yn rhoi adborth i fyfyrwyr felly rwy’n teimlo’n wylaidd iawn am gael adborth mor gadarnhaol yn ôl.  Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y Seremoni Wobrwyo, mae’n siŵr y bydd yn ddigwyddiad anhygoel."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.