Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr i Bartneriaeth Qioptiq Caerdydd

16 Mai 2019

Qioptiqed

Mae cwmni ffotoneg o'r radd flaenaf yng ngogledd Cymru a ddatblygodd ddull newydd o ad-weithgynhyrchu a rhagfynegi galw, wedi ennill gwobr am arloesedd.  

Creodd Qioptiq, sydd wedi'i leoli yn Sir Ddinbych, fodel busnes o'r radd flaenaf er mwyn hwyluso cadwyni cyflenwi di-wastraff, a gostwng costau drwy reoli stocrestrau'n well.

Mae'r cwmni o Lanelwy yn dylunio ac yn gweithgynhyrchu cynhyrchion ffotoneg yn ogystal ag atebion ar gyfer cwsmeriaid awyrofod a sectorau amddiffyn cenedlaethol a rhyngwladol.

Arloesedd a arweiniodd y cwmni i ffurfio Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth gyda Phrifysgol Caerdydd wrth iddo geisio cynyddu ei adnoddau. Tyfodd ei fusnes cefnogi gwasanaeth wrth fabwysiadu gweithgareddau y mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn eu cynnal, fel arfer.

Ysgol Busnes Caerdydd roddodd yr arbenigedd ar gyfer datblygu pecyn cymorth stocrestrau 'ad-weithgynhyrchu,' i gefnogi'r broses o gynnal a chadw, ac uwchraddio cyfarpar goruchwylio a thargedu ar gyfer Lluoedd Arfog y DU.

Mae'r bartneriaeth – a ffurfiodd ran o gais llwyddiannus Qioptiq am gytundeb gwerth £82m – wedi ennill yr anrhydedd Arloesedd mewn Busnes yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd 2017, sydd bellach ar eu 21ain blynedd.

Dywedodd Peter White, Rheolwr Gyfarwyddwr Qioptiq: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr hon gydag Ysgol Busnes Caerdydd. Mae'n atgyfnerthu ein henw da hirsefydlog fel cwmni arloesol gydag agwedd ymarferol at arloesedd. Yn sgîl y bartneriaeth, aethom ati i symleiddio ein cadwyn gyflenwi a defnyddio set newydd o declynnau i gefnogi ein gweithrediadau cyflenwi logisteg, a'n galluogi i bennu galw'n fanwl, rhagfynegi'r arian a gaiff ei ennill a chynllunio archebion stocrestrau."

O dan arweiniad yr Athro Aris Syntetos a’r Athro Mohamed Naim o Ysgol Busnes Caerdydd, cyflogodd y bartneriaeth arbenigwr mewn rhagfynegi stocrestrau 'di-wastraff,' Thanos Goltsos, i weithio gyda Qioptiq i drosglwyddo arbenigedd academaidd.    

"Rydym yn falch ac yn wirioneddol wrth ein boddau o fod wedi ennill y wobr hon," meddai'r Athro Syntetos. Mae’n deyrnged i bawb oedd ynghlwm â’r gwaith, o ymchwil eithriadol Thanos fel cyswllt y bartneriaeth – gan ddod â manteision economaidd sylweddol i un o gwmnïau mwyaf arloesol Cymru – i oruchwyliaeth ymroddedig yr Athro Naim. Ym marn Innovate UK, roedd y bartneriaeth yn 'rhagorol' – ac rydym wrth ein boddau bod ein gwaith ymchwil yn parhau i ennill y prif wobrau ac yn cyfrannu at fusnes mwy di-wastraff a gwyrddach ar draws y byd."

Gofynnodd Qioptiq am arbenigedd Prifysgol Caerdydd ar ôl gwaith blaenorol gydag Ysgol Busnes Caerdydd drwy weithrediadau'r Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch (ASTUTE ac ASTUTE2020) wedi'u hariannu'n rhannol gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.

Mae gwaith ymchwil ar stocrestrau mwy di-wastraff a chynaliadwyedd amgylcheddol yn alinio'n agos â strategaeth Gwerth Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd, gan adlewyrchu diddordeb cynyddol Llywodraethau Cymru a'r DU yn yr economi gylchol, cynaliadwyedd ac ad-weithgynhyrchu.

Trefnir y Gwobrau, ar 3 Mehefin, gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, ac maent wedi bod yn hyrwyddo'r partneriaethau rhwng y Brifysgol â busnesau ers dros ugain mlynedd.

https://youtu.be/9GK3DSf-Lrg

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.