Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau yn dathlu pŵer partneriaethau

16 Mai 2019

I&I 2016 trophies

Bydd Gwobrau Arloesedd ac Effaith y Brifysgol, a gynhelir am yr 21ain tro, yn dathlu pŵer pedair partneriaeth fuddugol ym mis Mehefin. 

Mae’r prosiectau wedi’u dewis bythefnos cyn cynnal noson wobrwyo gala, gan olygu bod amser gan aelodau o'r cyhoedd i ddewis eu ffefryn a phleidleisio dros 'Ddewis y Bobl.'

Bydd yr enillydd yn cael iPad Mini. Bydd hefyd yn cael gwahoddiad i gwrdd â thîm 'Dewis y Bobl' cyn y seremoni gala, ac ymuno â nhw ar gyfer y cinio gala ar 3 Mehefin.

Cewch bleidleisio rhwng 16 Mai a chanol nos ar 24 Mai 2019. Mae rheolau'r gystadleuaeth ar gael.  

Dyma'r pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol:

Rhagfynegi stocrestrau mewn cadwyni cyflenwi gwrthdro economaidd cylchol at ddibenion ad-weithgynhyrchu

Bu'r cwmni o Ogledd Cymru, Qioptiq yn gweithio'n agos gydag Ysgol Busnes Caerdydd i lunio dull newydd o ad-weithgynhyrchu a rhagfynegi galw.

Qioptiqed

Gwobr i Bartneriaeth Qioptiq Caerdydd

Arloesedd y cwmni'n sicrhau contract sylweddol

Arddangosydd ynni adnewyddadwy / cadw amonia integredig cyntaf y byd 

Prosiect o dan arweiniad Siemens ar y cyd â'r Ysgol Peirianneg, Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg UKRI a Phrifysgol Rhydychen gydag arian Innovate UK.

FLEXIS

Prosiect 'Pŵer drwy Amonia' yn ennill gwobr

System ynni gwyrdd yn cael anrhydedd o ran arloesedd

Datblygu Caerdydd Creadigol – rhwydwaith wedi'i arwain gan Brifysgol Caerdydd ar gyfer y diwydiannau creadigol 

Uned Economi Greadigol yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant  ar y cyd â BBC Cymru Wales, Cyngor Caerdydd a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Clwstwr office opening

Caerdydd Creadigol yn ennill gwobr arloesedd

Gwobr bartneriaeth i'r Rhwydwaith

Codi ymwybyddiaeth o ARWYDDION awtistiaeth

Bu'r Ysgol Seicoleg yn cydweithio â Thîm Datblygu Cenedlaethol ASD, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddatblygu gwybodaeth gyfeirio.

Birthday party

Gwobr i system sy'n nodi arwyddion awtistiaeth – SIGNS

Canmoliaeth gofal iechyd ar gyfer yr Ysgol Seicoleg

Wrth siarad am brosiectau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae enillwyr eleni'n dangos gwaith ymchwil 'y byd go iawn' sy'n helpu i newid cymdeithas a llywio'r economi wybodaeth. Maen nhw'n amlygu'r rheswm pam ydym yn rheolaidd ymhlith 10 prifysgol orau Grŵp Russell o ran incwm eiddo deallusol, ac ar hyn o bryd i’w gyfrif am 97% o'r incwm eiddo deallusol a gynhyrchir gan brifysgolion Cymru."

Dywedodd Matthew Smith, Pennaeth adran Addysg Blake Morgan: "Pleser o’r mwyaf yw noddi'r Gwobrau Arloesedd ac Effaith a gynhelir am yr 21ain tro. Mae arloesedd yn hanfodol ar gyfer economi sy’n ffynnu a chymdeithas deg. Prifysgolion sydd â’r allwedd i ddatgloi ymchwil wych y gall pawb elwa ohoni. Rydyn ni'n ymfalchïo yn ein cysylltiad hirsefydlog gyda Phrifysgol Caerdydd ac wrth ein bodd ein bod yn parhau i gynghori'r Brifysgol ar rai o'i phrosiectau arloesedd sy'n torri tir newydd."

Dywedodd Dr Julie Fyles, Cyfarwyddwr Symbiosis IP Ltd: "Mae'n fraint noddi Gwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd a gynhelir am yr 21ain tro. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Brifysgolion a'i chwmnïau newydd wrth gam cynnar, a chael gweld yn uniongyrchol y rôl enfawr sydd gan Brifysgol Caerdydd wrth ddatblygu'r economi wybodaeth a llunio cymdeithas yn fwy eang."

Trefnir y Gwobrau Arloesedd ac Effaith gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, ac maent wedi bod yn hyrwyddo'r partneriaethau rhwng y Brifysgol â busnesau ers dros ddau ddegawd.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.