Ewch i’r prif gynnwys

Ehangu adnodd AGENDA a’i gyflwyno i athrawon yn Lloegr

17 Ebrill 2019

Emma Renold and school kids

Bydd athrawon yn Lloegr yn clywed am sut y gallant ddefnyddio adnodd sydd â’r nod o roi llais i blant a phobl ifanc ar berthnasoedd a lles.

Mae’r Athro Emma Renold o Brifysgol Caerdydd yn ehangu ei gwaith ar ‘AGENDA: canllaw i bobl ifanc ar wneud i berthnasoedd cadarnhaol gyfrif’. Mae’r wefan newydd yn cynnig mynediad i athrawon at ystod o weithgareddau cychwynnol ac astudiaethau achos yn seiliedig ar hawliau a chydraddoldeb, a chefnogi plant a phobl ifanc i godi eu llais am ystod o bynciau gan gynnwys teimladau ac emosiynau, cyfeillgarwch a perthnasoedd; delwedd y corff; cydsyniad; cydraddoldeb a hawliau o ran rhywedd a rhywioldeb, a thrais ar sail rhywedd a thrais rhywiol.

Mae’r adnodd, sydd wedi bod yn llwyddiant yng Nghymru ac yn rhyngwladol, wedi cael ei ddatblygu ymhellach gyda chefnogaeth yr Undeb Addysg Cenedlaethol. Mae’r Athro Renold yng nghynhadledd blynyddol y sefydliad yn Lerpwl heddiw i drafod sut y gall athrawon yn Lloegr ei ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth.

“Bydd lansiad yr adnodd ar-lein newydd, AGENDA, yn gwneud yn siŵr bod gweithwyr addysg proffesiynol yn hyderus ac yn gymwys i fynd i’r afael ag ystod o bynciau sensitif, sy’n heriol ar adegau,” dywedodd yr Athro Renold o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

Mae gwrando a dysgu gan chwilfrydedd a phryderon plant a phobl ifanc o ganlyniad i'w profiadau bywyd yn hanfodol er mwyn creu cwricwlwm perthnasol wedi’i lywio gan anghenion.

Yr Athro EJ Renold Athro Astudiaethau Plentyndod

Y gobaith yw y bydd y wefan, a fydd yn mynd yn fyw nes ymlaen y mis hwn, yn helpu athrawon yng Nghymru a Lloegr wrth iddynt gyflwyno newidiadau i’r cwricwlwm perthnasoedd ac addysg rhyw.

Meddai Rosamund McNeil, Dirprwy Brif Ysgrifennydd yr Undeb Addysg Cenedlaethol: “Mae’n bleser gennym ymuno a’r rhestr o bartneriaid sy’n cefnogi AGENDA. Mae hwn yn adnodd hynod ymarferol. Mae wedi’i ddylunio i helpu gweithwyr proffesiynol ym myd addysg i gefnogi pobl ifanc i feithrin perthnasoedd ac edrych ar syniadau ynghylch cydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn ffordd gynhwysol ac sy’n briodol o ran oed. Yn bwysicaf oll, mae’n helpu ysgolion i wneud defnydd llawn o’r cwricwlwm er mwyn edrych ar berthnasoedd iach a gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn gallu chwarae eu rhan mewn materion sy’n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol.”

Dywedodd Kauser Jan, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Gynradd Bankside yn Leeds: “Bydd adnodd AGENDA yn creu cymuned ysgol ddiogel sy’n galluogi disgyblion i dyfu, dysgu, a datblygu ymddygiad cadarnhaol, iach am byth. Mae’n cwmpasu amrywiaeth o faterion y mae nifer o athrawon ac ysgolion yn cael anhawster yn eu hwynebu. Mae wedi fy helpu i addysgu plant a chynnig sesiynau i athrawon ac aelodau o’r gymdeithas, gan sicrhau bod pawb yn deall yr angen am gwricwlwm cynhwysol sy’n herio camsyniadau.”

Cafodd AGENDA, a lansiwyd yn gyntaf yn 2016, ei ddatblygu ar y cyd gyda, ac ar gyfer, pobl ifanc rhwng 11 ac 17 mlwydd oed, a’i ariannu gan Brifysgol Caerdydd, NSPCC Cymru, Cymorth i Fenywod a Llywodraeth Cymru. Ers hynny, mae wedi’i ddatblygu ar gyfer ymarferwyr o fewn sectorau ysgol cynradd ac uwchradd ac yn cynnig ystod o ddulliau creadigol megis adrodd straeon a chrefftau, neu symud a cherddoriaeth er mwyn annog trafodaeth.

Yn ei ddwy flynedd gyntaf, cyrhaeddodd yr adnodd gynulleidfaoedd rhyngwladol, o lansiad pecyn cymorth rhyngweithiol AGENDA yn America mewn partneriaeth â SPARK Movement yn Efrog Newydd, i ddulliau gweithredu Valentine Card yn y Ffindir.

Yr Athro Renold fu Cadeirydd panel arbenigol y Gweinidog dros Addysg a ystyriodd ‘Dyfodol y cwricwlwm Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yng Nghymru’. Daeth y panel i’r casgliad bod Addysg Rhywioldeb a Pherthnasoedd mewn ysgolion yn rhy fiolegol ac yn rhy negyddol, ac nad oedd digon o sylw i hawliau, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, emosiynau a pherthnasoedd. Arweiniodd y canlyniadau hyn at ailwampio’r cwricwlwm yng Nghymru yn sylweddol.

https://youtu.be/uRpGi-Jm9uE

Rhannu’r stori hon

Darllenwch ein hastudiaethau achos am effaith ein hymchwil, o atal arddegwyr i ysmygu, i adennill y buddion o drosedd