Ewch i’r prif gynnwys

Lansio AGENDA cynradd

19 Mawrth 2019

Emma Renold and school kids

Heddiw, lansiwyd pecyn addysg i helpu plant i ystyried materion ynghylch perthnasoedd cadarnhaol.

Mae’r Athro Emma Renold, o Brifysgol Caerdydd, wedi datblygu AGENDA Cynradd – adnodd rhad ac am ddim ar gyfer athrawon ac ymarferwyr addysgiadol. Mae’r pecyn wedi’i deilwra at blant rhwng 7 ac 11 oed ac yn cynnwys gweithgareddau ac astudiaethau achos y gall athrawon eu haddasu i helpu plant i ystyried amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys teimladau ac emosiynau; cyfeillgarwch a pherthnasau; delwedd corff; cydsyniad; cydraddoldeb a hawliau o ran rhywedd a rhywioldeb.

O 2022 ymlaen, bydd Addysg Rhywioldeb a Pherthnasoedd (RSE) newydd, sy'n gynhwysol, yn gyfannol ac sy'n grymuso disgyblion, yn cael ei gwreiddio yng nghwricwlwm Cymru ar sail statudol.

Dywedodd yr Athro Renold, sy'n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: “Mae tirwedd addysg rhywioldeb a pherthnasoedd yn newid. Mae cwricwlwm newydd Cymru’n brosiect uchelgeisiol sy’n hyrwyddo dysgu moesegol, gwybodus, creadigol a hyderus ym mhob agwedd ar addysg, gan gynnwys addysg rhyw a pherthnasoedd.

“Ond ar hyn o bryd, ychydig iawn o adnoddau sy’n cynnig syniadau a thechnegau ynghylch sut gall gweithwyr proffesiynol addysg gefnogi plant, gwrando arnynt a dysgu ganddynt ynghylch beth sy’n bwysig iddynt yn y maes hwn. Dyluniwyd AGENDA Cynradd yn benodol gyda’r cwricwlwm newydd mewn cof. Ei nod yw gadael i blant ystyried amrywiaeth eang o faterion yn greadigol ac yn ddiogel, o emosiynau a chyfeillgarwch i hawliau rhywedd a rhywioldeb.”

Lansiwyd AGENDA yn 2016 a chafodd ei datblygu ar y cyd â phobl ifanc rhwng 11-17 oed. Cafodd ei hymgorffori i mewn i ymarfer gan sefydliadau allweddol a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig addysg ynghylch rhyw a pherthnasoedd. Dyluniwyd y pecyn addysg rhyngweithiol newydd yn benodol ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol sydd am rymuso plant fel y gallant feithrin perthnasoedd cadarnhaol yn eu hysgolion a’u cymunedau. Mae’n cynnig ystod helaeth o adnoddau a syniadau ar gyfer agwedd gynhwysol a chreadigol sy’n seiliedig ar hawliau tuag at faterion sydd yn aml yn sensitif, o adrodd straeon a mynegi eu hunain drwy symud a cherddoriaeth.

Mae'n wych gweld bod adnodd ‘AGENDA Cynradd’ ar gael bellach - mae’r pecyn ‘AGENDA’ cyntaf wedi bod yn llwyddiant ysgubol, a bu defnydd helaeth ohono ledled Cymru. Bydd yr adnodd newydd hwn yn cefnogi athrawon i ddarparu addysg rhywioldeb a pherthnasoedd (RSE) gynhwysfawr, berthnasol a chynhwysol, a hynny o dan drefniadau’r cwricwlwm presennol ac yn y dyfodol.

Kirsty Williams Gweinidog Cymru dros Addysg

Ychwanegodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru: "Mae AGENDA Cynradd yn darparu ffyrdd diogel, creadigol a chyffrous dros ben i helpu plant i ddeall, ystyried a mynegi eu barn ar ystod eang o faterion hanfodol. Rhaid i ni beidio â thanbrisio gallu plant iau. Rwy’n gweld plant oed ysgol gynradd yn llawn angerdd, yn greadigol, yn chwilfrydig, a bod ganddyn nhw ymdeimlad aruthrol o gyfiawnder cymdeithasol. Alla i ddim aros i rannu’r AGENDA Cynradd ag ysgolion cynradd yng Nghymru."

Dywedodd Ceri Parry, Pennaeth Ysgol Gymraeg Casnewydd: “Ethos ein hysgol yw bod gennym gyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod ein plant yn cael sylfaen gadarn i lwyddo mewn bywyd. Byddwn yn croesawu Anodd yr Agenda. Bydd yn gadael i ddisgyblion ledled Cymru ffynnu fel meddylwyr beirniadol. Byddan nhw'n dysgu i feddwl yn annibynnol am amrywiaeth o bynciau ac yn tyfu’n oedolion llawen a hyderus.”

Mae AGENDA yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd, NSPCC Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Cymorth i Ferched Cymru, ac fe’i cefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Yr Athro Renold fu Cadeirydd panel arbenigol y Gweinidog dros Addysg a ystyriodd ‘Dyfodol y cwricwlwm Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yng Nghymru’. Daeth y panel i’r casgliad bod Addysg Rhywioldeb a Pherthnasoedd mewn ysgolion yn rhy fiolegol ac yn rhy negyddol, ac nad oedd digon o sylw i hawliau, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, emosiynau a pherthnasoedd. Arweiniodd y canlyniadau hyn at ailwampio’r cwricwlwm yn sylweddol.

Mae’r AGENDA Cynradd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ac mae modd ei lawrlwytho’n rhad ac am ddim gan http://agenda.cymru/

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.