Ewch i’r prif gynnwys

Gallai canfyddiadau newydd wella'r rhagolygon ar gyfer pobl o dras Affricanaidd sydd â sgitsoffrenia sy'n gwrthsefyll triniaeth

26 Chwefror 2019

Pharmacist with boxes of pills

Mae astudiaeth dan arweiniad ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn golygu y gallai mwy o bobl o dras Affricanaidd sydd â sgitsoffrenia sy'n gwrthsefyll triniaeth gymryd y cyffur sydd fwyaf tebygol, yn ôl y dystiolaeth, o reoli eu symptomau.

Nododd y tîm reswm genetig a diniwed mewn pobl o dras Affricanaidd am lefelau is o niwtroffil: cyflwr all hefyd fod yn sgil-effaith prin, â'r potensial i fygwth bywyd, yr unig feddyginiaeth ar drwydded ar gyfer sgitsoffrenia sy'n gwrthsefyll triniaeth.

Yn ôl yr Athro James Walters, un o'r prif ymchwilwyr yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg Prifysgol Caerdydd: "Ar hyn o bryd, Clozapine yw'r therapi mwyaf effeithiol ar gyfer pobl â sgitsoffrenia sy'n gwrthsefyll triniaeth. Fodd bynnag, gall beri sgil-effaith prin o'r enw newtroffenia, sef gostyngiad mewn niwtroffiliau, math o gell gwaed gwyn a ddefnyddir i frwydro yn erbyn heintiau."

Credir bod niwtropenia'n effeithio ar tua 3 ym mhob 100 o bobl sy'n cael Clozapine ar bresgripsiwn. Mewn achosion prin, gall ddatblygu i fod yn agranwlosytosis, cyflwr difrifol â'r potensial i fygwth bywyd . O ganlyniad, mae pobl sy'n cael eu trin â clozapine yn cael prawf gwaed yn rheolaidd, ac os yw niwtropenia'n cael ei ganfod, daw triniaeth i ben ar unwaith.

Mae hyn i'w weld yn fwy cyffredin mewn pobl o gefndiroedd Affricanaidd neu Affro-Caribïaidd, a gall olygu bod y grwpiau hynny'n fwy tebygol o roi'r gorau i gael triniaeth clozapine. Mae ein canfyddiadau yn awgrymu, mewn nifer o achosion, bod y gyfradd gynyddol hon o niwtropenia'n ganlyniad niwtropenia ethnig diniwed, yn hytrach nag adwaith i clozapine.

Yr Athro James Walters Clinical Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Cynhaliodd y tîm astudiaeth cysylltiad genom-gyfan a defnyddio samplau gan 552 o bobl o dras Affricanaidd sy'n cymryd clozapine.

Eglurodd Dr Sophie Legge, prif awdur ar y cyd yr astudiaeth: "Gwelsom amrywiad genetig yn y genyn ACKR1 oedd wedi'i gysylltu'n gryf â chyfrif is o niwtroffil, ac roedd y rheini oedd yn rhan o'n sampl â'r amrywiad hwnnw 20 gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu niwtropenia yn ystod triniaeth clozapine na defnyddwyr clozapine heb yr amrywiad genetig hwn."

Mae'r un amrywiad genetig yn gyfrifol am y grŵp gwaed 'Duffy-null', sy'n gyffredin iawn mewn mannau o'r byd lle bu malaria'n rhemp, gan gynnwys sawl rhan o Affrica, Asia ac America Ladin.

Mae gan bobl â'r grŵp gwaed Duffy-null lai o risg o gael eu heintio â malaria, ond mae eu lefelau niwtroffil yn is hefyd, ar gyfartaledd, na gweddill y boblogaeth. Credir ei fod yn ffynhonnell o niwtropenia ethnig diniwed, cyflwr etifeddol sy'n effeithio ar o leiaf 25-50% o bobl o dras Affricanaidd neu'r Dwyrain Canol.

mae tystiolaeth dda nad yw niwtropenia ethnig diniwed yn arwain at gyfraddau uwch o haint neu agranwlosytosis, felly mae'n debygol, mewn gweithred, fod llawer o bobl â sgitsoffrenia sy'n gwrthsefyll triniaeth yn cael eu heithrio'n ddiangen rhag cymryd meddyginiaeth allai helpu i ostwng eu symptomau.

Dr Sophie Legge Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Yn wyneb y canfyddiadau hyn, mae'r tîm yn awgrymu prawf genetig fel strategaeth syml a sensitif ar gyfer rhoi diagnosis o niwtropenia ethnig diniwed cyn rhoi clozapine ar bresgripsiwn.

Yn ôl Dr Antonio Pardiñas, un o gyd-arweinwyr y prosiect, "Gallai unigolion â'r cyflwr sydd ddim yn dangos unrhyw arwyddion o swyddogaeth imiwnedd sydd o dan fygythiad gael terfynau niwtroffil wedi'u hadolygu, yn unol â'r gweithdrefnau presennol ar gyfer monitro niwtropenia ethnig diniwed. Byddai hyn yn caniatáu i ragor o bobl fyddai'n elwa o clozapine i ddechrau cymryd y feddyginiaeth, gan osgoi'r angen i lawer mwy i roi'r gorau i driniaeth.

"Yn hanfodol, mae hyn yn dibynnu ar ganlyniadau'r astudiaethau diogelwch ychwanegol, ond mae gan y prawf fferylliaeth-geneteg hwn y potensial i helpu â rheoli'r driniaeth clozapine."

Mae'r papur ‘A genome-wide association study in individuals of African ancestry reveals the importance of the Duffy-null genotype in the assessment of clozapine-related neutropenia’ wedi'i gyhoeddi yn y cyfnodolyn Molecular Psychiatry.

This would allow more people who would benefit from clozapine to start taking the medication while avoiding the need to stop treatment for many more. Crucially, this is dependent on the outcome of additional safety studies, but this pharmacogenetic test has the potential to assist the management of clozapine treatment.

Dr Antonio Pardiñas Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.