Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr geneteg yn achub y blaen ar sgitsoffrenia

26 February 2018

Genes

Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg wedi dod o hyd i 50 o feysydd geneteg newydd sy’n cynyddu’r perygl o ddatblygi sgitsoffrenia. Yn ogystal, maent wedi defnyddio gwybodaeth o’r radd flaenaf am ddatblygiad yr ymennydd er mwyn adnabod yn union pa genynnau newydd a llwybrau biolegol sy’n ymwneud â’r afiechyd hwn.

Archwiliodd yr astudiaeth – y mwyaf o’i math – ddata geneteg mewn 100,000 o unigolion gan gynnwys 40,000 o bobl sydd wedi’u diagnosio â sgitsoffrenia, a chanfyddodd hefyd bod gan rai o’r genynnau a ganfuwyd y bod ganddynt berygl uwch o sgitsoffrenia, gysylltiad ag anhwylderau niwroddatblygiadol eraillm gan gynnwys anabledd deallusol ac anhwylderau’r sbectrwm awtistiaeth.

Yn ôl yr Athro Syr Mike Owen, sy'n arwain Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol, Prifysgol Caerdydd: “Mae’r canfyddiadau hyn yn gam pwysig arall ar hyd y ffordd hir i driniaethau newydd ar gyfer sgitsoffrenia a byddant yn hanfodol ar gyfer adnabod cyffuriau newydd posibl, fydd yn ffocws gynyddol ar gyfer ein gwaith yn y blynyddoedd sydd i ddod.”

Canfyddiad annisgwyl a sylweddol arall oedd bod y genynnau sy’n gysylltiedig â’r perygl o sgitsoffrenia yn hollbwysig i ddatblygiad arferol yn bennaf, ac felly fel arfer nid ydynt yn cynnwys mwtaniadau niweidiol. Bydd y darganfyddiad hwn yn helpu ymchwilwyr gyfyngu eu proses o chwilio mecanweithiau’r anhwylder am fod y genynnau hyn – a elwir, yn gyffredin, yn ‘enynnau na allant oddef colled gweithrediad’ – ond yn cyfrif am tua 15% o'r holl genynnau yn y genom dynol.

Yn ôl Dr Antonio Pardiñas, prif awdur yr astudiaeth: “Am y tro cyntaf, rydym yn dangos bod amrywiadau genetig nad sy’n effeithio’n ddifrifol ar swyddogaeth genynnau – ond bod ganddynt, yn ôl pob tebyg, effaith mwy cynnil ar y genynnau hollbwysig hyn – yn cynyddu’r perygl o ddatblygu sgitsoffrenia.”

Mae'r canfyddiadau hefyd yn esbonio dirgelwch sydd wedi peri penbleth i seiciatryddion a genetegwyr esblygol fel ei gilydd: os oes gan pobl sydd â sgitsoffrenia, ar gyfartaledd, llai o blant na phobl heb yr anhwylder, pam fod sgitsoffrenia dal i effeithio ar gynifer o bobl?

Yn ôl Dr James Walters, sy'n arwain yr astudiaeth: “Mae llawer o’r amrywiadau genetig sy'n rhoi i risg i sgitsoffrenia yn gymharol gyffredin yn y boblogaeth, a byddai llawer o wyddonwyr wedi disgwyl iddynt gael eu clustnodi gan ddetholiad naturiol, tyfu’n brin ac yn y pen draw, diflannu oddi ar y boblogaeth.”

“Mae llawer o ddamcaniaethau wedi ymddangos i egluro hyn. Un o’r damcaniaethau hynny yw y mae’n rhaid bod gan y perygl geneteg ar gyfer sgitsoffrenia effaith gadarnhaol i gydbwyso’r rhai negyddol, neu y mae’n rhaid y bu ganddo’r effaith hynny yn y gorffennol. Ni ddaethom o hyd i dystiolaeth o ‘ddetholiad cadarnhaol’, fel y’i gelwir, ond yn hytrach gwnaethom ganfod bod nifer o amrywiolion geneteg sy’n gysylltiedig â sgitsoffrenia yn bodoli mewn rhannau o’r genom lle nad yw detholiad naturiol yn effeithiol iawn yn y lle cyntaf. Yn ogystal, nid oes gan y rhan fwyaf ohonynt effeithiau difrifol unigol, ac mae hynny’n eu gwneud yn llai tebygol o gael eu dewis, naill ai o blaid neu yn erbyn.”

Ychwanegodd Dr Rachael Panizzo, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Iechyd Meddwl a Bod yn Gaeth yn y Cyngor Ymchwil Meddygol: “Mae’r astudiaeth fawr hon yn cynnig tystiolaeth bellach o sgitsoffrenia a’r eneteg gymhleth sy’n sail i sgitsoffrenia. Bydd cynnydd yn ein dealltwriaeth o’r llwybrau biolegol a’r mecanweithiau o dan sylw’n helpu i ddatgelu targedau newydd ar gyfer triniaeth, y gallai un diwrnod drosi i fod yn ofal gwell, mwy personol ar gyfer pobl sy'n byw gyda sgitsoffrenia.”

Mae’r ymchwil ‘Common schizophrenia alleles are enriched in mutation-intolerant genes and in regions under strong background selection' wedi ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Nature Genetics.

Rhannu’r stori hon