Ewch i’r prif gynnwys

Gwella cyfraddau goroesi canser y pancreas

20 Chwefror 2019

Artist's impression of torso and pancreas scan

Mae Dr Catherine Hogan o Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd wedi cael dros £370,000 i helpu i ddod o hyd i dargedau newydd er mwyn canfod canser y pancreas yn gynnar.

Bydd yr arian, gan Bwyllgor Canfod Cynnar Ymchwil Canser y DU, yn cefnogi ymchwil i’r mecanweithiau sy’n sail i gamau cynnar y clefyd. Y nod fydd datblygu adnoddau diagnostig gwell ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Dr Catherine Hogan: “Mae canser y pancreas yn glefyd angheuol gyda’r prognosis gwaethaf o unrhyw ganser, ac mae canfod y canser yn gynnar yn hollbwysig er mwyn goroesi.

“Mae naw deg y cant o ganserau'r pancreas yn codi’n achlysurol o gelloedd sy’n cario mwtaniadau yn y genyn sy’n achosi’r canser, a elwir yn KRAS. Mae ein gwaith wedi dangos bod celloedd gyda’r genyn KRAS wedi ei fwtadu, yn aml yn cael eu gwaredu gan y meinweoedd o ganlyniad i fecanweithiau amddiffynnol sy’n cadw’r meinwe yn iach. Mae hyn yn awgrymu, er mwyn i’r canser dyfu, bod rhaid i’r celloedd KRAS sydd wedi mwtadu allu osgoi cael eu canfod gan y mecanweithiau amddiffynnol hyn.

“Bydd yr arian hwn yn ein galluogi i adeiladu ar ein gwaith presennol ac ymchwilio p’un a yw cael mwy o fwtaniadau yng nghelloedd KRAS yn eu galluogi i osgoi’r mecanweithiau amddiffynnol yn y pancreas ac ysgogi datblygiad canser.”

Nod y tîm yw deall ymddygiadau celloedd canser y pancreas yn ystod y camau cynnar iawn yn natblygiad y canser, er mwyn adnabod biofarcwyr y gellid eu defnyddio i helpu’r broses o ganfod yn gynnar.

“Drwy’r gwaith yma, ein nod yw deall digwyddiadau biolegol sylfaenol sy’n arwain at gamau cynnar canser y pancreas.

“Os gallwn ni ddeall hyn, rydym yn credu y bydd yn arwain at brofion canfod cynnar ar gyfer y dyfodol. Yn y pen draw, bydd y rhain yn trawsnewid sut rydym yn rhoi diagnosis o ganser y pancreas”, ychwanegodd Dr Hogan.

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol enw da ar lefel ryngwladol am ei haddysgu a’i hymchwil, ac mae’n cynnig rhai o’r cwricwla biowyddorau gorau yn y DU sy’n cael ei arwain gan ymchwil