Ewch i’r prif gynnwys

Gwella'r dull o wneud diagnosis o ganser y colon a’r rhefr

20 Chwefror 2019

Artist's impression of colon

Mewn profion gwaed ysgarthol presennol ar gyfer canser y colon a’r rhefr, mae chwe deg y cant o'r profion yn rhoi canlyniad cadarnhaol anghywir. Mae cyllid newydd gan Ymchwil Canser y DU yn helpu gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd i ddod o hyd i brofion gwell, mwy diogel.

Mae anghywirdeb profion cychwynnol ar gyfer canser y colon a’r rhefr yn rhoi cleifion mewn perygl diangen, sy’n amlygu’r angen hanfodol i ddatblygu profion cywir, anymwthiol. Mae grant o dros £400,000 yn helpu ymchwilwyr yn y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd i gyflawni hyn.

Dywedodd Dr Lee Parry, o'r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae modd atal hanner cant y cant o achosion canser y colon a’r rhefr.

Rydym yn ymchwilio i sut y gall deiet, bacteria'r perfedd a’r amgylchedd effeithio ar fôn-gelloedd coluddol, sef y celloedd sy’n deillio o ganser y colon a’r rhefr. Drwy ddeall ymddygiad y celloedd hyn, gallwn wella ymdrechion i atal, gwneud diagnosis a thrin y math hwn o ganser.

“Rydym yn creu y gallwn ddefnyddio cyfrwng biolegol a elwir yn SL7207 i ganfod p’un a oes celloedd canser y colon a’r rhefr yn bresennol. Gallwn gyflwyno’r cyfrwng hwn ac os yw’n gyson bresennol yn y profion ysgarthol, bydd yn arwydd o bolypau rhag-ganseraidd y coluddyn.”

Mae Ymchwil Canser y DU yn cynnig grant o £498,000 i’r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, i ariannu’r ymchwil hwn.

Mae’r Sefydliad ym Mhrifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ar ymchwilio i fôn-gelloedd canser - celloedd yn y tiwmor sy’n ysgogi datblygiad a lledaeniad y canser drwy’r corff - gyda’r nod o ddefnyddio’u hymchwil i drawsnewid y ffordd rydym yn atal, rhoi diagnosis a thrin canserau.

Mae’r astudiaeth hon yn un gydweithredol â’r Athro Paul Dyson, Prifysgol Caerdydd, a Dr Sunil Dolwani o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

“Os gallwn brofi ein bod ni’n gywir, bydd hyn yn sbarduno datblygiad profion hawdd eu defnyddio, diogel a chost-effeithiol ar gyfer canser y colon a’r rhefr y gellir eu defnyddio yn y clinig.

“Bydd hyn hefyd yn helpu i leihau’r baich ar ysbytai o ganlyniad i brofion diangen, amseroedd aros a risg i gleifion iach.

“Gall cael eich profi am ganser fod yn amser sy’n peri straen a phryder, ac mae’n bwysig bod y prosesau hyn yn cael eu gwneud mor effeithiol a chywir â phosibl.

“Gallai'r cyllid hwn yn ein galluogi ni i gynnig pecynnau profi effeithiol ar gyfer canser y colon a’r rhefr yn y dyfodol, a fydd yn cael effaith ddramatig ar y broses o brofi a rhoi diagnosis o’r clefyd hwn”, meddai Dr Parry.

Rhannu’r stori hon

Rydym ni’n defnyddio ein gwybodaeth i ddatblygu ymchwil arloesol fydd yn cael effaith ar y byd.