Ewch i’r prif gynnwys

Cyfraith fusnes yng Nghymru

31 Ionawr 2019

Man welcomes crowd to room
Yr Athro Calvin Jones yn croesawu cynrychiolwyr i ddigwyddiad y Swyddfa Farnwrol yn Ystafell Addysg Weithredol Ysgol Busnes Caerdydd

Mae ymarferwyr busnes a chyfreithiol o Gymru wedi clywed sut mae cyfraith fusnes ac eiddo wedi canolbwyntio ar Lundain am ormod o amser mewn trafodaeth banel a gynhaliwyd yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd.

Roedd y digwyddiad, a drefnwyd gan y Swyddfa Farnwrol, yn rhoi llwyfan i banel o wahoddedigion a oedd yn cynnwys ffigurau amlwg o fewn system gyfreithiol y DU, gan gynnwys: Syr Geoffrey Vos, Canghellor yr Uchel Lys, Meistr Ustus Birss a Meistr Ustus Picken a'r Barnwyr Milwyn Jarman ac Andrew Keyser.

Roedd trafodaeth y panel yn ceisio annog busnesau a'u cyfreithwyr i godi anghydfodau yn Llys Busnes ac Eiddo Caerdydd, a lansiwyd yn 2017.

Rhatach, cynt, agosach

Ymhlith manteision rhoi achosion fel hyn ar brawf yng Nghymru mae arbedion ariannol ac amser, yn ogystal â chyd-destun daearyddol hysbys i fusnesau lleol a fyddai fel arall wedi gorfod mynd i Lundain i ddatrys mewn achosion Llys.

“Mae gwir ymrwymiad i gael barnwyr uchel lys yn rhoi anghydfodau busnes ar brawf yng Nghymru. Mae'r barnwyr yma ac yn hynod barod a galluog. Mae'r costau sydd ynghlwm wrth roi achos ar brawf yn lleol yn llai hefyd.”

Meistr Ustus Picken Barnwr Llywyddol Cylchdaith Cymru

“Pan oeddwn i wrth y bar, roedd cwmnïau Caerdydd yn comisiynu gwaith yn Llundain. Mae'n rhyfedd iawn i brifddinas beidio â gwneud ei gwaith ei hun.

“Dim ond un Gymru sydd ac mae rhoi achosion Cymru ar brawf yng Nghymru yn gwneud synnwyr.”

Awgrymodd aelod o'r gynulleidfa mai rhan o'r rheswm pam na fyddai busnesau'n dod â'u hachosion i Gaerdydd oedd nad oedden nhw eisiau golchi eu dillad brwnt yn lleol. Felly mae Llundain yn gyrchfan mwy deniadol. Ysgogodd hyn y panel i awgrymu y gallai cynnal achosion yn lleol fod yn hwb i ddod i gytundeb ar hawliadau!

Lawtech, cymrodeddu ac amrywiaeth

Hefyd roedd y digwyddiad yn gyfle i'r panel ystyried dyfodol y proffesiwn gyda datblygiadau technolegol, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol yn gorfodi newidiadau i system gyfreithiol sydd fel arall yn un geidwadol.

Esboniodd Syr Geoffrey Vos, Canghellor yr Uchel Lys, sut mae'r system gyfreithiol yn gyfle i'r DU mewn amgylchedd ôl-Brexit.

“Lawtech yw'r dyfodol Wrth inni adael yr UE rhaid inni wneud defnydd o'n pwyntiau gwerthu unigryw. Un ohonyn nhw yw ein cyfraith. Ac mae hi mewn sefyllfa dda iawn i ddarparu'r fframwaith ar gyfer fintech a lawtech.”

Syr Geoffrey Vos Canghellor yr Uchel Lys

“Cymrodeddu yw'r llall. Mae datrys anghydfodau ar-lein yn datblygu'n syfrdanol. Mae'n effeithio arnon ni’n fwy efallai nag y mae rhai ohonon ni'n sylweddoli. Rhaid inni ddefnyddio technoleg i leihau costau ac i gynyddu cyflymder ein gwaith.”

Dadleuodd Syr Geoffrey y byddai newid diwylliant ymgyfreitha, gyda help technoleg a chymryd datrys rhai camau cynnar ymgyfreitha oddi ar-lein, yn gallu lleihau'r oriau eithriadol o hir y mae ymarferwyr cyfreithiol yn eu gweithio ym maes busnes ac eiddo ac yn helpu i greu cronfa ddoniau fwy amrywiol ar gyfer recriwtio barnwyr.

Mae Swyddfa Farnwrol yn adrodd i'r Arglwydd Brif Ustus ac Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd – ei diben yw cefnogi'r farnwriaeth wrth gynnal rheol y gyfraith ac wrth gael cyfiawnder yn amhleidiol, yn gyflym ac yn effeithiol.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cynnig cymorth wedi’i dargedu a chyfleoedd datblygu trwy ein gweithgareddau addysgu, ymchwil ac ymgysylltu.