Ewch i’r prif gynnwys

Entrepreneuriaid y Dyfodol

19 Rhagfyr 2018

Elsie Roberts

Mae rhaglen gan Brifysgol Caerdydd wedi bod yn helpu grŵp o fyfyrwyr chweched dosbarth i ddysgu beth sydd ei angen i lwyddo ym myd busnes.

Mae'r cwrs wyth wythnos, sy’n cael ei gynnal gan Ysgol Busnes Caerdydd, wedi rhoi blas ar fyd arweinyddiaeth a rheolaeth i ddisgyblion o ysgolion cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd.

Cyflwynwyd y rhan fwyaf o’r cwrs yn Gymraeg gan ddarlithwyr, athrawon ac entrepreneuriaid.

Roedd Eifion Griffiths, perchennog busnes gwlân Cymreig, Melin Tregwynt, Bethan Darwin o Thompson Darwin Solictors, ac Angela Parry Lowther, cyn bennaeth marchnata BBC Cymru, ymhlith y siaradwyr.

Dywedodd Elsie Roberts, o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf: "Maen nhw wedi dangos i mi y gallwch gyflawni unrhyw beth ac nad oes rhaid symud i Lundain i gael gyrfa gyffrous.

“Cafwyd cyflwyniad gan Ann Beynon, a arferai arwain BT yng Nghymru. Er nad yw menywod a dynion bob amser yn gyfartal, rwy’n llawer mwy gobeithiol ar ôl gwrando arni. Os yw hi’n gallu cyflawni hynny, gallaf i hefyd."

Yn ogystal â chlywed gan arweinwyr llwyddiannus o sefydliadau ledled Cymru, cafodd y grŵp y cyfle i ymweld â rheolwyr cangen Banc Santander a'u cysgodi. Cawsant gyfle hefyd i gymryd rhan mewn sesiwn ystafell fasnachu dan arweiniad myfyriwr ôl-raddedig o Ysgol Busnes Caerdydd.

Ychwanegodd Rachel Davies o Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr: “Mae wedi rhoi blas i mi ar sut beth yw gyrfa mewn busnes, yn hytrach nag astudio’r pwnc yn unig yn yr ysgol. Gwnes i hefyd fwynhau clywed gan fyfyriwr yn Ysgol Fusnes Caerdydd am ei brofiadau yn teithio."

Dywedodd Gareth Hall Williams, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Plasmawr: "Rwy'n hynod ddiolchgar i Ysgol Busnes Caerdydd am eu parodrwydd i drefnu a chymryd rhan mewn cwrs mor arloesol.

"Mae wedi cymryd cryn dipyn o waith ac ymdrech i ddod â disgyblion o dair ysgol cyfrwng Gymraeg at ei gilydd i fynd i sesiynau a gyflwynwyd gan saith siaradwr gwahanol.  Mae wedi caniatáu i garfan o ddisgyblion uchelgeisiol 16 a 17 oed gael cipolwg ar wahanol agweddau ar arweinyddiaeth, rheolaeth a bywyd fel entrepreneur, a’r cyfan mewn prifysgol.”

Dywedodd y siaradwr Bethan Darwin, sy'n bartner yng nghwmni cyfreithiol Thompson Darwin: "Gan fy mod wedi elwa’n fawr ar addysg cyfrwng Cymraeg, roeddwn yn hapus iawn i helpu gyda'r cwrs hwn.   Mae'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd, gan gynnwys busnes, ac mae’n rhan annatod a phwysig o Gymru fodern."

Dyma'r cwrs cyntaf o'i fath y mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi’i gynnal yn  Gymraeg.

Dywedodd Dr Eleri Rosier, o Ysgol Busnes Caerdydd, a oedd yn cynnal y cwrs: "Mae’r myfyrwyr a gymerodd ran wedi creu argraff fawr arnaf.  Maent i gyd â photensial i fod yn arweinwyr y dyfodol ac maent wedi dangos llawer o frwdfrydedd ac ymrwymiad i'w hastudiaethau.

"Mae gallu defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle yn agor drysau i bobl. Mae'n bwysig ein bod yn neilltuo amser i fentora unigolion talentog a dangos iddynt ei bod yn bosibl cael gyrfa hir a hynod lwyddiannus os ydynt yn aros yng Nghymru, boed hynny’n gweithio yn y sectorau preifat neu gyhoeddus."

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.