Arian CCAUC wedi’i ddyfarnu i gefnogi prosiect allgymorth
18 Hydref 2018
Yn ddiweddar, derbyniodd yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth dros £199,000 gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ar gyfer prosiect allgymorth i ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc i barhau â'u hastudiaethau mewn ffiseg hyd at Safon Uwch a thu hwnt.
Dyfarnwyd yr arian i'r Ysgol i greu prosiect mentora sy’n ceisio cynyddu’r nifer y myfyrwyr ysgol ym Mlynyddoedd 11 a 12 sy’n astudio ffiseg. Nod y prosiect hefyd yw mynd i'r afael â chydbwysedd rhwng y rhywiau mewn pynciau gwyddoniaeth fel ffiseg a pheirianneg. Y bwriad yw manteisio ar y cysylltiadau rhwng prifysgolion a chyflogwyr a lledaeniad daearyddol eang prifysgolion ledled Cymru.
Bydd y prosiect yn recriwtio ac yn hyfforddi myfyrwyr israddedig ac ôl-radd mewn pum prifysgol yng Nghymru a fyddai'n gweithio gydag ystod eang o ysgolion i fentora myfyrwyr sy'n astudio gwyddoniaeth ym Mlwyddyn 11. Byddai'r mentoriaid yn rhoi cefnogaeth ac ysbrydoliaeth i'r myfyrwyr iau yn ystod eu hastudiaethau ac yn eu cymell i barhau â phynciau ffiseg a gwyddoniaeth wrth iddynt symud ymlaen.
Y bwriad yw i’r prosiect hefyd ddatblygu deunyddiau a dulliau y gellir eu defnyddio i gefnogi myfyrwyr yn y dyfodol. Felly, bydd yn cael effaith barhaol ar y nifer sy’n dewis astudio ffiseg a phynciau gwyddoniaeth eraill.
Dywedodd arweinydd y prosiect, Dr Chris North: "Mae'r prosiect yn seiliedig ar brosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Modern hynod lwyddiannus. Ein nod yw dod â phrifysgolion, cyflogwyr ac ysgolion uwchradd ynghyd i gefnogi myfyrwyr i barhau â'u hastudiaethau ffiseg a pheirianneg hyd at lefel gradd. Rydym am iddynt fod yn ymwybodol o’r cyfleoedd y bydd y pynciau hyn yn eu cynnig iddynt yn y dyfodol ac rydym am eu cefnogi i gyflawni hynny."
Bydd y prosiect hefyd yn cael ei werthuso'n feirniadol gyda'r nod o ymestyn yr elfennau llwyddiannus mewn pynciau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol fel mathemateg.