Ewch i’r prif gynnwys

BBC 100 Women 2018

11 Rhagfyr 2018

Graphic of successful social entrepreneur
Mae BBC 100 Women yn enwi 100 o fenywod dylanwadol ac ysbrydoledig ar draws y byd bob blwyddyn gan rannu eu straeon.

Mae Barbara Burton, Prif Swyddog Gweithredol BehindBras, wedi'i henwi ar restr BBC 100 Women o fenywod ysbrydoledig a dylanwadol yn 2018.

Mae'r rhestr yn cynnwys arweinwyr, arloeswyr ac arwyr bob dydd o bedwar ban byd gan drafod amrywiaeth o themâu, yn cynnwys defnyddio dicter i sbarduno gweithredu a datgelu menywod o gysgodion hanes.

Rhwydwaith gefnogol

Sefydlodd Barbara BehindBras i roi sgiliau i fenywod sy'n gadael y carchar allu dechrau gyrfaoedd yn y diwydiant ffasiwn, ar ôl canfod ei hun dan glo yn ei 50au hwyr.

Ar ôl sefydlu ei busnes yn llwyddiannus yn Llundain a'r cyffiniau, mae ei ffocws wedi troi bellach i rannau eraill o'r DU.

Mae wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Busnes Caerdydd i ystyried sut y gallai lansio ei menter gymdeithasol yng Nghymru a chreu rhwydwaith gefnogol fydd yn helpu i noddi a chefnogi menywod dan glo sy'n awyddus i gael dechrau newydd.

Dywedodd Tîm Edwards, Athro Rheoli Gwasanaethau Cyhoeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Rwyf i wrth fy modd fod gwaith pwysig Barbara wedi'i gydnabod gan fenter BBC 100 Women.

“Mae ei stori'n un o obaith, arwriaeth a gwaith caled...”

“Mae'n ysbrydoliaeth ac rydym ni'n lwcus i gael cydweithio gyda hi yn Ysgol Busnes Caerdydd i ddatblygu partneriaeth hyfforddi gyda menywod sydd wedi bod yn y system cyfiawnder troseddol.”

Yr Athro Tim Edwards Pro-Dean for Research, Impact and Innovation
Professor of Organisation and Innovation Analysis

Gan weithio ar y cyd ag Enactus Caerdydd â'r Rhwydwaith Arloesedd Cyfrifol, mae Barbara am geisio sefydlu rhaglen entrepreneuraidd i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd i weithio gyda menywod yng ngharchar Eastwood Park.

Blwyddyn gofiadwy

Mae BBC 100 Women yn enwi 100 o fenywod dylanwadol ac ysbrydoledig ar draws y byd bob blwyddyn gan rannu eu straeon.

Ar ôl blwyddyn gofiadwy i hawliau dynol yn fyd-eang, mae BBC 100 Women yn adlewyrchu'r menywod arloesol sy'n defnyddio angerdd, dicllonedd a dicter i sbarduno newid gwirioneddol yn y byd o'u cwmpas.

Gallwch ddysgu mwy ar Facebook, Instagram a Twitter gan ddefnyddio #100Women.

Cewch wybod rhagor am genhadaeth Barbara ar wefan Behind Bras.

Rhannu’r stori hon

Rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn ymgorffori ein strategaeth gwerth cyhoeddus ar draws ein hymchwil, ein dysgu a'n llywodraethu.