Ewch i’r prif gynnwys

Bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y sector cyhoeddus

31 Hydref 2018

Gender pay gap

Bydd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn gwerthuso maint y bwlch cyflog rhwng y rhywiau o fewn galwedigaethau fel addysgu a nyrsio ar ôl llwyddo i gael grant ymchwil gan Swyddfa Economeg y Gweithlu (OME).

Bydd yr ymchwil yn tywys gwaith y cyrff sy’n adolygu cyflogau yn y sector cyhoeddus. Bydd yr Athro Melanie Jones a Dr Ezgi Kaya o Ysgol Busnes Caerdydd yn defnyddio data ar raddfa fawr i ganfod a oes modd esbonio’r gwahaniaethau rhwng y rhywiau o ran cyflog a’u dewis o alwedigaeth yn ôl nodweddion personol, fel addysg a phrofiad gwaith a/neu nodweddion y swydd fel oriau gwaith er enghraifft.

Mae’r prosiect yn rhan o wasanaeth ymchwilio, dadansoddi a chynghori OME. Mae’r gwasanaeth hwn yn cefnogi gwaith yr wyth corff adolygu cyflog yn y DU gan ddarparu tystiolaeth o safon er mwyn iddynt allu argymell cyflogau blynyddol ar draws sector cyhoeddus y DU.

Meddai Melanie Jones, Athro Economeg o Ysgol Busnes Caerdydd: “Gallai’r prosiect hwn gael effaith enfawr os ydych yn ystyried bod gwaith yr OME a’r cyrff adolygu cyflogau yn effeithio ar 2.5 miliwn o weithwyr, neu tua 45% o staff y sector cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynrychioli bil cyflog o tua £100 biliwn y flwyddyn ar y cyd.

“Bydd Ezgi a finnau’n adeiladu ar rywfaint o'm gwaith blaenorol gyda’n cydweithiwr, yr Athro Vicky Wass. Dangosodd hwn fod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau’n llai yn y sector cyhoeddus nag yn y sector preifat yn y DU.

“Bydd y grant hwn yn ein galluogi i ymchwilio’n fanylach i hyn drwy ystyried y galwedigaethau allweddol y mae’r cyrff adolygu cyflogau’n eu harchwilio.

Ar y cyd a’r OME, bydd yr Athro Jones a’i chydweithiwr Dr Kaya yn dadansoddi data fydd yn cynrychioli’r genedl ar draws ystod eang o alwedigaethau yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys y lluoedd arfog, gofal iechyd, gwasanaethau’r carchardai, addysg a’r heddlu.

Yn ogystal â meintioli maint y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y sector cyhoeddus, bydd yr ymchwilwyr yn ystyried y ffactorau y tu ôl i’r gwahaniaethau. Wedyn, byddant yn argymell sut gellir mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn.

Mae’r prosiect eisoes wedi dechrau a bydd yn adrodd am ei ganfyddiadau ym mis Ebrill 2019. Caiff yr ymchwil ei chyhoeddi ar wefan OME.

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.