Ewch i’r prif gynnwys

Menywod, adsefydlu a menter gymdeithasol

16 Gorffennaf 2018

Black and white sketch of women

Mae cynulleidfa o academyddion, entrepreneuriaid ac ymarferwyr creadigol wedi clywed am y modd y mae menter gymdeithasol yn cefnogi menywod i ddod o hyd i gyflogaeth ystyrlon yn y diwydiannau ffasiwn a chreadigol ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar.

Nod Behind Bras, sydd wedi'i sefydlu a'i arwain gan Barbara Burton, yw adsefydlu menywod sy'n gyn-droseddwyr drwy gyfrwng hyfforddiant a datblygiad personol sy'n gysylltiedig â dylunio a gweithgynhyrchu dillad isaf.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn Elusen The Clink yng ngharchar Caerdydd – sy'n fenter gymdeithasol ynddi hi ei hun – lle mae carcharorion yn cynnal profiad o giniawa tra'n gweithio tuag at ennill cymwysterau a chyflogaeth ystyrlon yn y diwydiant lletygarwch, ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'r ddalfa.

Lansiwyd Behind Bras yng Nghymru yn sgîl cyflwyniad Barbara. Hwn hefyd oedd y cam cyntaf tuag at greu rhwydwaith cefnogol fydd yn helpu i noddi a chefnogi menywod sydd â diddordeb mewn dechrau o'r newydd.

Barbara Burton at BehindBras launch

Yn ogystal â rhannu ei phrofiad personol o adsefydlu, amlinellodd Barbara raglen ddatblygu'r sefydliad, sy'n helpu menywod i fod yn hunangynhaliol, ailintegreiddio â chymdeithas a lleihau achosion o aildroseddu.

Esboniodd mai llai na 10% o fenywod sy'n cael eu rhyddhau o'r carchar sy'n dod o hyd i swyddi, a pham ei bod yn teimlo mor gryf bod pob menyw yn haeddu ail gyfle.

Gan weithio ar y cyd â'r Rhwydwaith Arloesedd Cyfrifol, mae Barbara hefyd am geisio sefydlu rhaglen entrepreneuraidd hefyd i fyfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd i weithio gyda menywod yng ngharchar Eastwood Park.

Bydd y cydweithrediad hwn yn ategu Addysgu Gwerth Cyhoeddus yr Ysgol, sy’n ceisio trosglwyddo ymdeimlad moesegol a dychymyg cydymdeimladol i fyfyrwyr tuag at heriau cymdeithasol ac economaidd yr oes sydd ohoni.

Claire Ritchie at BehindBras launch

Yn dilyn cyflwyniad Barbara, gwahoddwyd Claire Ritchie – Pennaeth Cyswllt yr Adran Ddylunio ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr – i drafod y modd y gall ffasiwn fod yn achos er daioni.

Wrth ymgymryd â ffasiwn drwy ddylunio, marchnata a seicoleg, dadl Claire oedd y gall ffasiwn greu buddiannau cymdeithasol, gan gynnwys torri cylch torcyfraith, gwella sgiliau a galluogi, yn ogystal â buddiannau economaidd fel modelu busnes cynaliadwy a chreu cynnyrch.

Yn dilyn sesiwn holi ac ateb fywiog, daeth y digwyddiad i ben gyda phryd o fwyd blasus ym mwyty Clink.

Cewch wybod rhagor am genhadaeth Barbara ar wefan Behind Bras.

Rhannu’r stori hon

Find out more about the ways in which your organisation can work with our students, including placements and live projects.