Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio gyda'n gilydd

22 Rhagfyr 2017

Public Value Entrepreneurs in Residence
Our public value entrepreneurs in residence support and embed entrepreneurial and innovative thinking within the School

Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi croesawu chwe arweinwr busnes o sectorau cyhoeddus, preifat, gweithgynhyrchu, crefftwrol, a mentrau cymdeithasol Cymru i lansiad ei Chynllun Preswyl ar gyfer Entrepreneuriaid Gwerth Cyhoeddus (PVEiR) cyntaf.

Dewiswyd yr entrepreneuriaid, Andrew Cooksley, Prif Weithredwr ACT Training, Eifion ac Amanda Griffiths, Perchnogion a Chyfarwyddwyr Melin Tregwynt, Allan Meek, Rheolwr Gyfarwyddwr SCS Group, Yaina Samuels, Sylfaenydd NuHi Training, a Zoë-Lisa Blackler, Cyfarwyddwr Blackler Group, o broses ymgeisio gystadleuol er mwyn helpu i wella gallu’r Ysgol i gefnogi meddwl entrepreneuraidd ac arloesol.

Roedd y digwyddiad croesawu yn gyfle i’r Ysgol gyflwyno aelodau’r Gyfadran a hysbysu ynghylch ei strategaeth gwerth cyhoeddus unigryw.

“Y tro cyntaf ar gyfer ein Hysgol”

Martin Kitchener speaking at PVEiR welcome event

Dywedodd yr Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: “Rwy’n falch i groesawu ein PVEiRwyr i’r Ysgol er mwyn paratoi’r ffordd ar gyfer ein cydweithrediad â’r bobl hyn sy’n enghreifftiau o gymuned fusnes Gymreig sy’n mynd yn fwyfwy amrywiol.

“Rydym yn lansio menter newydd sbon, cyffrous. Y tro cyntaf ar gyfer ein Hysgol Ac rwy’n gobeithio y bydd o ddefnydd i’r entrepreneuriaid, ond hefyd ein myfyrwyr a’r gyfadran hefyd.”

“Datblygu gwell arweinwyr yng Nghymru”

Gan weithio ochr yn ochr â staff academaidd, bydd yr entrepreneuriaid hefyd yn cael y cyfle i gyfrannu’n uniongyrchol i strategaeth gwerth cyhoeddus yr Ysgol, sy’n ceisio cyflwyno gwelliant cymdeithasol ynghyd â datblygiad economaidd. Cydnabyddir y rôl y mae’n rhaid i fusnes a rheoli ei chwarae wrth fynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr yn y gymdeithas cyfoes.

“Rwy’n credu bod llawer o faterion yr wyf yn angerddol yn eu cylch, megis ymgysylltu â chyflogeion a sut rydym yn datblygu gwell arweinwyr busnes yng Nghrymu, a all wella’r rhagolygon ar gyfer yr economi a phobl Cymru yn gyffredinol.”

Allan Meek Rheolwr Gyfarwyddwr, SCS Group

Yn dilyn cyflwyniadau gan Dr Jane Lynch, Cyfarwyddwr Profiad Myfyrwyr, a Dr Sue Bartlett, Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd a Sgiliau, trodd y drafodaeth at sut y gallai entrepreneuriaid weithio gyda chymuned myfyrwyr a graddedigion yr Ysgol.

Andrew Cooksley with fellow PVEiRs
Andrew Cooksley’s mission in life is to make a positive difference in Wales.

Dywedodd Andrew Cooksley: “Rwy’n gwir edrych ymlaen at gael effaith ar y myfyrwyr, o ran yr hyn y byddant yn ei wneud hwyrach yn eu bywydau pan ymunant â’r byd mawr crwn.

“Gobeithio y byddant y creu swyddi, creu cyfoeth, gwella cymunedau, ac yn bwysicach byth, fyw bywydau gwych, llwyddiannus.”

“Chwalu'r rhwystrau hynny”

Trwy adeiladu ar rai o’u perthnasau cyfredol gyda’r Ysgol, bydd yr arweinwyr busnes yn cyfrannu at waith allgymorth ac ymgysylltu o fewn y gymuned leol ac ehangach.

Yaina Samuels - portrait
Yaina Smauels has over 25 years of experience working in private, public and third sector organisations and describes herself as a truth teller social entrepreneur, seeing the world as it is and how it can be.

Yn ôl Yaina Samuels: "Mae a wnelo â chwalu’r rhwystrau hynny a gwneud cysylltiadau cryfach ag aelodau o’r gymuned sy’n teimlo nad yw’r Brifysgol yn hygyrch iddyn nhw.”

I gloi, trodd y drafodaeth at sut gallai’r entrepreneuriaid gynghori ar ddatblygu agweddau perthnasol ar genhadaeth gwerth cyhoeddus yr Ysgol.

Dywedodd Amanda Griffiths: “Rwy’n credu taw ystyr gwerth cyhoeddus yw rhoi rhywbeth yn ôl ...”

“Ym mha faes bynnag yr ydych yn eich cael eich hunan, boed yn y byd academaidd, busnes, gweithgynhyrchu, neu fel cyflogwr, dylem oll fod yn barod i roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau yr hanasom ohonynt.”

Amanda Griffiths Amanda Griffiths, Cyd-berchennog a chyfarwyddwr Melin Tregwynt

“Naill ai ar lefel fechan, benodol, neu ar raddfa genedlaethol fel mae Ysgol Busnes Caerdydd yn ceisio ei wneud.”

Dysgwch ragor am ystod amrywiol o brofiadau ac arbenigeddau ein PVEiRwyr.

Rhannu’r stori hon

Rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn ymgorffori ein strategaeth gwerth cyhoeddus ar draws ein hymchwil, ein dysgu a'n llywodraethu.