Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr wedi datblygu prawf i ganfod celwyddau ar gyfer testun ysgrifenedig

26 Hydref 2018

Paper lie detector

Mae gwyddonwyr wedi datblygu meddalwedd sy’n gallu canfod a yw rhywun wedi cyflwyno datganiad celwyddog i’r heddlu ar sail testun y ddogfen yn unig.

Drwy ddefnyddio cyfuniad o ddadansoddiadau testun awtomatig a thechnegau dysgu cyfrifiadurol uwch, mae’r feddalwedd yn gallu canfod adroddiadau anwir o ran lladradau gyda chywirdeb o dros 80%.

Mae’r feddalwedd bellach ar waith ledled Sbaen er mwyn helpu’r heddlu a dangos lle byddai ymchwiliadau pellach yn angenrheidiol.

Mae’r feddalwedd, o’r enw VeriPol yn gweithio’n benodol gydag adroddiadau o ladrad, ac mae’n gallu canfod patrymau sy’n fwy cyffredin mewn datganiadau anwir. Er enghraifft, y mathau o eitemau a gafodd eu dwyn, manylion mwy penodol o’r hyn ddigwyddodd ac o’r lleidr.

Mae’r tîm ymchwil, oedd yn cynnwys arbenigwyr ym maes cyfrifiadureg o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Charles III Madrid, yn credu y gallai’r feddalwedd helpu’r heddlu i beidio â gwastraffu amser ac ymdrechion drwy ategu technegau ymchwilio traddodiadol. Ar ben hynny, bydd yn atal mwy o bobl rhag cyflwyno datganiadau celwyddog yn y lle cyntaf.

Mae canlyniadau’r astudiaeth wedi’u cyhoeddi yn y cyfnodolyn academaidd Knowledge-Based Systems.

Yn llawer o rannau’r byd, mae cyflwyno datganiadau celwyddog i’r heddlu yn drosedd ac maent yn dwyn cosbau difrifol yn eu sgîl, fel amser yn y carchar neu ddirwyon mawr.

Nid yn unig y mae datganiadau celwyddog yn llygru cronfeydd data’r heddlu ac yn rhwystro ymchwiliadau troseddol, maent yn gwastraffu llawer iawn o adnoddau cyhoeddus y gallai’r heddlu eu defnyddio ar gyfer troseddau eraill.

Eto i gyd, mae adroddiadau celwyddog yn gyffredin iawn, yn enwedig o ran troseddau sy’n llai difrifol, fel lladrad.

Yn rhannol, mae VeriPol yn defnyddio proses o’r enw prosesu iaith naturiol, sy’n rhan o ddeallusrwydd artiffisial sy’n helpu cyfrifiaduron i ddeall, dehongli a thrafod ieithoedd dynol. Er enghraifft, mae’r feddalwedd yn defnyddio algorithmau i ganfod a meintioli gwahanol nodweddion mewn testun, fel ansoddeiriau, acronymau, berfau, enwau, atalnodau a rhifau a ffigurau.

Cafodd hen ddatganiadau oedd yn gelwyddog eu bwydo i VeriPol fel y gall godio pob un a dechrau dysgu’r patrymau penodol.

Dangosodd astudiaeth gychwynnol o dros fil o ddatganiadau i Heddlu Cenedlaethol Sbaen fod VeriPol yn effeithiol dros ben wrth ddidoli adroddiadau ffug a gwir, gyda chyfradd llwyddiant o dros 80 y cant.

Canfu VeriPol sawl thema sy’n gyffredin ymhlith adroddiadau celwyddog o ran lladrad, gan gynnwys: datganiadau byrrach sy’n canolbwyntio’n fwy ar yr hyn a ddygwyd na’r digwyddiad ei hun; diffyg manylion penodol ynghylch y digwyddiad ei hun neu’r lleidr; diffyg tystion neu fath arall o dystiolaeth gadarn, neu beidio â chysylltu â’r heddlu neu feddyg yn syth ar ôl y digwyddiad.

“Er enghraifft, dechreuodd y model ganfod datganiadau ffug lle byddai’r datganwyr yn adrodd am ymosodiadau o du ôl iddynt neu lle roedd yr ymosodwyr yn gwisgo helmedau,” meddai cydawdur yr astudiaeth, Dr Jose Camacho-Collados o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd.

Yn yr un modd, roedd disgrifiadau o’r math o wrthrychau a ddygwyd yn arwyddion clir eraill o gelwydda. Roedd cyfeirio at iPhones a Samsungs yn gysylltiedig â datganiadau ffug, lle roedd cyfeirio at feiciau neu neclisau yn gysylltiedig ag adroddiadau gwir.

Dr Jose Camacho Collados Lecturer

Cafodd VeriPol ei defnyddio ar astudiaeth beilot go iawn yn ardaloedd trefol Murcia a Malaga yn Sbaen ym mis Mehefin 2017. Ymhen wythnos yn unig ym Murcia, cafodd 25 o adroddiadau ffug am ladrad eu canfod ym Murcia, a’u cau o ganlyniad. Cafodd 39 eraill eu canfod a’u cau ym Malaga hefyd.

O gymharu â’r wyth mlynedd rhwng 2008 a 2016, 3.33 oedd nifer yr adroddiadau ffug a gafodd eu canfod a’u cau gan yr heddlu ym mis Mehefin ym Murcia. 12.14 oedd y nifer cyfatebol ym Malaga.

Ar ôl i VeriPol bennu tebygolrwydd uchel o gelwydd i’r adroddiadau ac ar ôl i’r datganwyr gael eu cwestiyna ymhellach, byddai tua 83% o achosion felly yn cael eu cau o ganlyniad.

“Mae ein hastudiaeth wedi dangos sut mae pobl yn dweud celwydd wrth yr heddlu ac wedi cyflwyno meddalwedd a allai atal mwy o bobl rhag gwneud hyn yn y dyfodol,” meddai.

“Mae heddluoedd ar draws Sbaen bellach yn defnyddio VeriPol yn rhan o’u gwaith. Yn y pen draw, rydym yn gobeithio y bydd y feddalwedd hon yn atal mwy o bobl rhag dweud celwydd wrth yr heddlu yn y lle cyntaf drwy ddangos bod modd canfod celwyddau’n awtomatig.”

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol, sy'n blaenoriaethu ymchwil, enw da am addysgu ardderchog a gweithgareddau ymchwil medrus rhyngwladol.