Ewch i’r prif gynnwys

Academyddion Caerdydd yn ymuno ag ymdrechion y DU i ymladd trosedd

7 Mehefin 2018

Cyber crime

Mae arbenigwyr o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd wedi derbyn gwahoddiad i ymuno ag ymchwilwyr ar draws y DU i fynd i'r afael â'r bygythiad seibr cynyddol i seilwaith hanfodol y genedl.

Ynghyd â 13 o sefydliadau eraill, bydd Prifysgol Caerdydd yn rhan o Sefydliad Ymchwil nodedig Llywodraeth y DU i Systemau Seibr-ffisegol Rhyng-gysylltiedig Dibynadwy (RITICS).

Sefydlwyd RITICS yn 2014 gan Lywodraeth y DU ac fe'i cydlynir gan y Sefydliad Diogelwch Gwyddoniaeth a Thechnoleg (ISST) yng Ngholeg Imperial, Llundain. Fe'i noddir gan y Ganolfan Seibr-ddiogelwch Genedlaethol (NCSC) a Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC).

Nod RITICS yw deall a diogelu yn erbyn bygythiadau i systemau hanfodol y DU, fel trafnidiaeth, ynni, gweithgynhyrchu gwerth uchel, gwasanaethau dŵr a thelegyfathrebu.

Gellir disgrifio'r systemau hanfodol hyn yn 'seibr-ffisegol' gan eu bod yn cynnwys cyfrifiaduron rhwydwaith sy'n gallu rheoli paramedrau ffisegol. Mae hyn yn eu gwneud yn agored i fygythiadau seibr-ddiogelwch a allai arwain at ganlyniadau ffisegol difrifol i'r genedl gyfan.

Mae gan Brifysgol Caerdydd gyfoeth o arbenigedd ym maes seibr-ddiogelwch ac mae wedi derbyn dros £5m o gyllid gan Gynghorau Ymchwil y DU, Llywodraeth Cymru a Diwydiant.

Yn ddiweddar lansiodd y Brifysgol Ganolfan Rhagoriaeth mewn Dadansoddeg Seibr-ddiogelwch ochr yn ochr ag Airbus i ddatblygu ymchwil ar draws pob maes seibr-ddiogelwch.

Gan sôn am y cyhoeddiad, dywedodd Dr Pete Burnap, Cyfarwyddwr y Ganolfan Rhagoriaeth: "Rydym ni'n falch iawn i ymuno â RITICS a chydweithio gydag ymchwilwyr seibr-ddiogelwch blaenllaw eraill yn y DU. Mae màs critigol yn bwysig wrth wynebu heriau mawr fel y rheini sy'n amlwg yn yr ecosystem seibr fyd-eang. Mae gennym hanes cryf o ymchwil ar ddefnyddio dulliau gwyddor data arloesol i ganfod ymosodiadau seibr yn ogystal â modelu eu heffaith ar brosesau rhyng-ddibynnol.

"Mae systemau seibr-ffisegol wrth graidd bywyd bob dydd ac rydym ni'n ceisio gwneud y rhain mor ddiogel â phosibl drwy ddatblygu ymchwil sy'n arwain y byd, a'i drosi'n gymwysiadau effeithlon mewn diwydiant a llywodraeth."

Dywedodd yr Athro Chris Hankin, Cyfarwyddwr RITICS: "Sefydlwyd RITICS yn 2014 gyda phum prifysgol yn y DU a ffocws cynnar ar wella seibr-ddiogelwch Systemau Rheoli Diwydiannol.

"Erbyn hyn mae'r rhaglen wedi ehangu ei ffocws i seibr-ddiogelwch yr holl systemau hanfodol, ac mae'n croesawu aelodau newydd fel Prifysgol Caerdydd. Rydym ni'n edrych ymlaen yn llawn cyffro at weithio gyda Phrifysgol Caerdydd yn y dyfodol."

Rhannu’r stori hon