Ewch i’r prif gynnwys

Platwnio tryciau

23 Hydref 2018

Simulated image of lorries

Bydd ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd yn dangos sut y gall patwnio tryciau wella diwydiant trafnidiaeth y DU ar ôl sicrhau cyllid gan y Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth (CILT).

Bydd y prosiect dan arweiniad Dr Emrah Demir, Athro Cyswllt Panalpina mewn Gweithgynhyrchu a Logisteg yn Ysgol Busnes Caerdydd, yn taflu goleuni ar ddefnydd ymarferol o gerbydau ymreolaethol ar gyfer diwydiant cludiant y DU.

Platwnio yw un o'r ffyrdd mae cerbydau ymreolaethol yn gweithredu. Mae'r term yn cyfeirio at gysylltu dau dryc neu fwy i greu trên gan ddefnyddio rhwydwaith o ddyfeisiau a adnabyddir yn gynyddol fel Rhyngrwyd Pethau a systemau cymorth gyrru awtomataidd.

Gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol

Dywedodd Dr Emrah Demir: “Mae dyfodiad cerbydau ymreolaethol yn gyfle i wella bywydau bob dydd pobl drwy gynnig opsiynau trafnidiaeth amgen a danfon nwyddau'n rhatach ar adegau tawel, a all leihau tagfeydd ar y ffyrdd...”

“Ac wrth gwrs, ceir goblygiadau amgylcheddol hefyd oherwydd gan fod y cerbydau hyn yn cael eu rhedeg ar drydan, bydd llai o ddefnydd o gynhyrchion petroliwm, fydd yn lleihau allyriadau sy'n cyfateb i garbon deuocsid.”

Yr Athro Emrah Demir Professor of Operational Research, The PARC Professor of Manufacturing and Logistics, Deputy Head of Section (Learning and Teaching)

“Bydd y cerbydau hyn hefyd yn cefnogi'r cysyniad o economi gyffredin sy'n arwain at berthnasoedd busnes buddiol rhwng cwmnïau logisteg. Mae hyn yn golygu bod cwmniau'n gallu rhannu capasiti a chost cerbydau gydag eraill er mwyn gallu danfon nwyddau'n fwy effeithlon ac yn rhatach.”

Mae manteision posibl platwnio'n cynnwys gwell arbedion tanwydd oherwydd llai o ymwrthedd aer, llai o dagfeydd a theithiau cymudo sylweddol fyrrach yn ystod cyfnodau brig.

Gwthio'r ffiniau

Bydd Dr Demir yn gweithio yng Nghanolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu a Logisteg Panalpina i gyflawni buddion i academia a hefyd i amrywiol sefydliadau llywodraethol a diwydiant.

Dywedodd Fiona Palmer, Rheolwr Dysgu a Datblygu CILT: “Dyfernir y gronfa sbarduno i brosiectau sy'n gwthio ffiniau ymchwil i'w gymhwyso ym meysydd logisteg a thrafnidiaeth...”

“Roedd ein panel dyfarnu'n teimlo bod Dr Demir yn cyflwyno agwedd newydd at blatwnio tryciau ac mae diddordeb gan y Sefydliad i weld y canlyniadau.”

Fiona Palmer Rheolwr Dysgu a Datblygu CILT

CILT yn y DU yw'r sefydliad aelodaeth i weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â symud nwyddau a phobl a'u cadwyni cyflenwi cysylltiedig.

Sefydlwyd CILT yn y DU yn 1919, ac mae'n elusen gofrestredig sy’n rhan o deulu rhyngwladol CILT gyda thros 33,000 o aelodau mewn gwledydd ar draws y byd.

Mae'r ymchwil ar waith a bydd Dr Demir yn cyflwyno ei ganfyddiadau mewn gweithdy ym Mhrifysgol Caerdydd yr haf nesaf ac yng nghynhadledd flynyddol y Rhwydwaith Ymchwil Logisteg.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn griw cymysg o arbenigwyr mewn sawl maes o Brifysgol Caerdydd a diwydiant.