Ewch i’r prif gynnwys

Braster yn danwydd i ganserau'r ymennydd

19 Hydref 2018

Brain cancer cells

Mae braster yn hybu tyfiant tiwmor canser yr ymennydd, yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Florida.

Wrth ymchwilio i'r gwahanol fathau o gelloedd yn glioblastoma, mae'r tîm ymchwil wedi cael mewnwelediad gwerthfawr i'r hyn sy'n danwydd i gelloedd canser sy'n rhannu'n araf ac yn gyflym, gan ddatgelu'r posibilrwydd o dargedu math ymosodol o ganser yr ymennydd yn fwy effeithiol.

Yn ôl Dr Florian Siebzehnrubl, o’r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Glioblastoma yw'r math mwyaf cyffredin ac ymosodol o ganser yr ymennydd mewn oedolion ac ar hyn o bryd, does dim modd gwella'r clefyd hwn.

"Rhan o'r rheswm pam mae glioblastomas mor angheuol yw bod sawl math o gelloedd canser o fewn yr un tiwmor.

"Roeddem eisiau deall beth sy'n danwydd i'r gwahanol gelloedd, a gyda lwc, defnyddio'r wybodaeth honno i greu therapïau wedi'u targedu, fydd yn gwella nifer y cleifion sy'n goroesi."

Canfu'r ymchwilwyr bod y celloedd sy'n rhannu'n araf yn fwy ymosodol ac yn gallu gwrthsefyll therapïau canser, a chanfod yn ogystal eu bod yn defnyddio gwahanol fath o danwydd na'r celloedd sy'n rhannu'n gyflym yn yr un tiwmor.

Ychwanegodd Dr Siebzehnrubl:  "Rydym wedi canfod bod y celloedd sy'n rhannu'n gyflym yn defnyddio siwgr fel tanwydd, tra bod y celloedd â chylch araf yn defnyddio braster i gynhyrchu ynni. Mae hyn yn bwysig, am y gwyddom bod y celloedd hynny sy'n rhannu'n araf yn bodoli mewn tiwmorau sy'n dychwelyd dro ar ôl tro, sy'n golygu efallai mai'r math hwn o gell sy'n gyfrifol am diwmor yn aildyfu.

"Drwy atal y celloedd sy'n arafu rhag amsugno braster, gallwn wella’r modd y maent yn ymateb i driniaeth, ac yn y dyfodol, gallem ddatblygu therapïau sy'n targedu'r celloedd â chylch araf yn benodol. Mae potensial y byddai hynny'n helpu i wella cyfraddau goroesedd yn y math ymosodol hwn o ganser yr ymennydd."

Rhannu’r stori hon

Dysgwch sut mae ein hymchwil arloesol yn cael effaith yn fyd-eang.