Ewch i’r prif gynnwys

Cysylltiad rhwng HPV a Chanser ar ôl trawsblaniad aren

30 Mai 2018

image of cancer cells

Mae Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd Prifysgol Caerdydd wedi amlygu’r cysylltiad rhwng datblygu canser y croen ymhlith cleifion sydd wedi cael trawsblaniad aren.

Mae firysau fel HPV yn fwy tebygol mewn cleifion â diffyg amddiffyniad i’w system imiwnedd. Mae firysau yn ffynnu mewn pobl sydd â system imiwnedd wan. Gall hyn olygu fod y rhai sy’n derbyn trawsblaniad aren, ac yn cael cyffuriau i gadw eu system imiwnedd o dan reolaeth yn rhan o'u triniaeth, yn agored i firysau sy'n achosi canser megis HPV.

Ceratinocyte carcinoma, math o ganser y croen, yw’r canser mwyaf cyffredin ymhlith cleifion sy’n cael trawsblaniad aren ac mae’n gysylltiedig â B-HPV sy’n deillio o feirws HPV.

Meddai Dr Girish Patel, Sefydliad Ymchwil Bôn-Gelloedd Canser Ewropeaidd: "Mae ein gwaith wedi ymchwilio i’r dulliau sy'n ymwneud â datblygu ceratinocyte carcinoma ymhlith cleifion sydd wedi cael trawsblaniad aren.

"Yn ein gwaith ymchwil, fe wnaethom ddefnyddio croen arferol a thiwmorau a dynnwyd o gleifion sydd wedi cael trawsblaniad aren. Gan ddefnyddio gwrthgyrff, roeddem yn gallu gweld bod risg uchel o ddatblygu ceratinocyte carcinoma os oedd firws β-HPV yn bresennol yn y croen a’i fod wedi cyfuno â ffactorau risg eraill fel amlygiad i oleuni UV a gwrth-imiwnedd.

"Ar ben hynny, mae ein gwaith ymchwil yn dangos hefyd, am y tro cyntaf, bod y mecanweithiau moleciwlaidd sy’n galluogi feirws HPV yn gallu achosi datblygiad canserau croen lluosog mewn cleifion sydd wedi cael trawsblaniad aren.

"Mae’r astudiaeth hon nid yn unig wedi cymryd cam pwysig o ran deall sut gall firysau achosi i ganser ddatblygu a lledaenu, ond mae hefyd yn pwysleisio’r angen i glinigwyr fonitro cleifion ar gyfer HPV a achoswyd gan ganser y croen ar ôl derbyn trawsblaniad aren, gan eu bod yn fwy tebygol o ddatblygu canser yn y dyfodol.”

Rhannu’r stori hon

Mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar draws disgyblaethau i fynd i’r afael â heriau pwysig sy’n wynebu cymdeithas, yr economi a’n hamgylchedd.