Ewch i’r prif gynnwys

Academydd ym Mhrifysgol Caerdydd i gefnogi Comisiwn Gwaith Teg Llywodraeth Cymru

27 Medi 2018

Professor Alan Felstead

Penodwyd yr Athro Alan Felstead yn Gynghorydd Arbenigol Annibynnol i Gomisiwn Gwaith Teg Llywodraeth Cymru, comisiwn a sefydlwyd yn ddiweddar.

Sefydlwyd y comisiwn ym mis Gorffennaf gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, a'i dasg fydd gwneud argymhellion ar gyfer hyrwyddo ac annog gwaith teg yng Nghymru. Bydd hynny'n cynnwys datblygu dynodyddion a dulliau mesur gwaith teg, a nodi ffynonellau data er mwyn helpu i fonitro cynnydd.

Bydd y Comisiwn yn ystyried yn ogystal a ellir datblygu camau i hyrwyddo gwaith teg sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, a nodi pa gamau newydd neu ychwanegol y gellid eu cymryd.

Bydd yr Athro Felstead, o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol, yn ymuno â'r cadeirydd, yr Athro Linda Dickens MBE, Athro Cysylltiadau Diwydiannol ym Mhrifysgol Warwick; Sharanne Basham-Pyke, Cyfarwyddwr Shad Consultancy Ltd; Edmund Heery, Athro Cysylltiadau Cyflogaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd; a Sarah Veale CBE, cyn Bennaeth Hawliau Cydraddoldeb a Chyflogaeth yng Nghyngres yr Undebau Llafur yn 2015.

Yn rhinwedd ei rôl fel Cynghorydd Arbenigol Annibynnol, bydd yr Athro Felstead yn casglu a dehongli'r dystiolaeth ar gyfer mynd i'r afael â'r cylch gorchwyl.

Mae'r penodiad hwn yn adeiladu ar ymchwil helaeth yr Athro Felstead ynghylch sgiliau, hyfforddiant ac ansawdd swyddi, yn enwedig wrth arwain a datblygu rowndiau diweddar o'r Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth, a dyfeisio teclyn newydd ac arloesol o hunanasesu ansawdd swyddi.

Yn y gorffennol, cafodd adrannau o'r llywodraeth gyngor arbenigol annibynnol ganddo, ac ymysg yr adrannau hynny roedd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac asiantaethau megis Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau, Swyddfa'r Llywodraeth ar gyfer Gwyddoniaeth a Swyddfa’r Ystadegau Gwladol.

Ynghylch ei benodiad, dywedodd yr Athro Felstead: "Braint ac anrhydedd yw cael fy ngwahodd i ymgymryd â'r rôl hon.  Yn bwysicach, fodd bynnag, mae'n golygu y bydd rhywfaint o'r ymchwil yr wyf yn ei chynnal, ac yn gwybod amdani, yn cael effaith ystyrlon a gwirioneddol ar fywydau gwaith pobl Cymru."

Yn ôl Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, Julie James: "Rwyf wedi gofyn i'r Comisiwn ystyried y wybodaeth a gwneud argymhellion ar gyfer hyrwyddo ac annog gwaith teg yng Nghymru. Mae cefndir yr Athro Felstead mewn ymchwil i'r farchnad lafur yn golygu ei fod mewn lle da i roi cyngor arbenigol annibynnol er mwyn cefnogi gwaith y Comisiwn."

Rhannu’r stori hon