Ewch i’r prif gynnwys

Gall y rhan fwyaf o gyflogeion weithio'n glyfrach, o gael cyfle

19 Gorffennaf 2018

Person working at laptop

Gall dros hanner (58%) o gyflogeion Prydain nodi newidiadau yn y gwaith a fyddai'n eu gwneud yn fwy cynhyrchiol, yn ôl astudiaeth a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 19 Gorffennaf 2018).

Mae Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2017, a gynhaliwyd gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Sefydliad Addysg Coleg Prifysgol Llundain a Choleg Nuffield, Rhydychen, yn ceisio barn cyflogeion ar draws ystod o sectorau. Cynhaliwyd cyfweliadau â chyfanswm o 3,300 o weithwyr 20 i 65 oed ar draws y Deyrnas Unedig ar gyfer y gwaith ymchwil, sy’n cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yr Adran Addysg a Phrifysgol Caerdydd.

Dengys yr astudiaeth, sy’n cyflwyno canlyniadau bob pum mlynedd, fod syniadau sy'n gwella effeithlonrwydd yn cael eu cynnig a’u gweithredu’n amlach mewn sefydliadau lle mae cyfranogiad cyflogeion yn uchel.  Mae cyflogwyr o'r fath yn caniatáu mwy o ymreolaeth i gyflogeion benderfynu sut mae gwneud eu swyddi, yn fwy cefnogol i’r rhai y maent yn eu rheoli, yn rhoi mwy o gyfle i gyflogeion fynegi barn, ac yn cynnal arfarniadau sy’n effeithio ar enillion cyflogeion a/neu eu cyfleoedd hyfforddi. Er enghraifft, mae 28% o'r rhai sydd â rheolwr llinell cefnogol iawn mewn swyddi sydd hefyd yn rhoi cyfle i gyflogeion gynnig syniadau ar gyfer gwella effeithlonrwydd, o gymharu â 13% yn unig o’r rhai sydd â rheolwr llai cefnogol.

Mae gweithwyr yn aml yn dyheu am y cyfle i ddweud wrth gyflogwyr beth ddylai gael ei wneud, ac mae 18% ohonynt yn amcangyfrif y byddai eu hawgrymiadau, o’u gweithredu, yn cynyddu eu cynhyrchiant llawer iawn.  Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys:

  • "Cael caniatâd i gynnig mwy o syniadau yn hytrach na chael pobl sy’n methu gwneud y gwaith yn dweud wrthyn ni beth i’w wneud” (gweithredwr peiriant yn gweithio i gwmni cemegau).
  • "Mae angen i sgiliau’r tîm gael eu diweddaru; byddai hynny’n fy ngwneud yn fwy cynhyrchiol. Felly, fyddai dim rhaid i mi wirio’u gwaith drwy’r amser, fel sy’n digwydd nawr” (technegydd ffowndri yn gweithio i gwmni cerfluniau efydd).
  • "Gwell cysylltedd rhyngwladol, megis fideo-gynadledda rhwng swyddfeydd Singapore, Denver a Llundain" (dadansoddwr busnes sy’n gweithio ym myd bancio).

Dangosodd yr arolwg hefyd fod un o bob 8 (13%) o gyflogeion wedi gwneud awgrymiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i reolwyr a/neu eu cydweithwyr oedd wedi cyfrannu llawer iawn i wella effeithlonrwydd. Roedd dros 70% wedi cymryd camau mwy uniongyrchol drwy gyflawni mentrau gwella effeithlonrwydd eu hunain neu gyda chydweithwyr.

Yn ôl ‘Productivity at Work: the Workers’ Perspective', un o’r tri adroddiad sy’n cael eu cyhoeddi heddiw, “mae angen gwneud mwy - ac mae modd gwneud hynny - i wella cynhyrchiant... Mwy o gyfranogiad gan y gweithwyr yw’r elfen allweddol, ond dyma lle mae arferion rheoli wedi cymryd cam yn ôl yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a chynhyrchiant dilewyrch yw un o ganlyniadau digroeso hynny.”

Dyma ragor o’r canfyddiadau:

  • Er gwaethaf y prinder sgiliau mewn sectorau economaidd penodol, yn gyffredinol mae’r twf yn y galw am sgiliau wedi arafu’n sylweddol ers dechrau'r gyfres o arolygon yng nghanol y 1980au, ac mae hyd yn oed wedi cael ei wyrdroi  mewn rhai meysydd.  Mae hyn yn rhoi pwysau ar i lawr ar gynhyrchiant.  Ers 2012, mae pwysigrwydd sgiliau llythrennedd a rhifedd, er enghraifft, wedi gostwng, mae’r duedd at gymwysterau uwch adeg mynediad wedi dod i ben ac mae’r amser a dreulir yn dysgu wrth weithio ac yn cael hyfforddiant wedi gostwng.  Erbyn 2017, roedd yr amser hyfforddi cyfartalog ar gyfer swyddi wedi gostwng i 7.8 mis – lefel oedd heb ei chofnodi ers canol y 1980au.
  • Dim ond chwarter (25%) o'r ymatebwyr oedd yn cytuno'n gryf bod eu cyflogwr yn trin gweithwyr yn y sefydliad yn deg.   Mae ymchwilwyr yn credu y gallai hyn fod yn cael effaith ganlyniadol ar berfformiad yn y gwaith gan fod rhai sydd â synnwyr uchel o degwch sefydliadol yn fwy parod i fynd y filltir ychwanegol a dod yn fwy cynhyrchiol o ganlyniad.
  • Yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, mae menywod nid yn unig wedi dal i fyny, ond wedi goddiweddyd dynion o ran meddiannu'r swyddi sy'n gofyn am gymwysterau addysg uwch. Mae gwahaniaethau rhwng y rhywiau o ran hyd y cyfnod o  hyfforddiant a’r amser sy’n angenrheidiol i ddysgu gwneud y swydd yn dda naill ai wedi lleihau neu wedi diflannu'n llwyr. Fodd bynnag, mae’r ymchwilwyr yn nodi: "Mae llawer eto i'w wneud i droi mwy o gydraddoldeb rhwng y rhywiau o ran sgiliau swyddi yn gyflog cyfartal, fel y dangosir gan y ffaith bod y bwlch cyflog yn dal i fodoli rhwng y rhywiau."

Dywedodd Alan Felstead, Athro Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd ac arweinydd y tîm ymchwil: "Mae bwlch cynhyrchiant llafur hirsefydlog rhwng Prydain a’i chystadleuwyr, er bod cyflogeion Prydain yn gweithio’n ddwysach nag mewn llawer o genhedloedd eraill.  Nod ein gwaith ymchwil ni yw ceisio deall rôl gweithwyr wrth sbarduno newid y mae mawr angen amdano i wyrdroi’r sefyllfa honno.

Mae'r ymchwilwyr hefyd yn nodi bod nifer yr achosion o newid technegol yn y gwaith wedi gostwng yn sydyn ar draws pob grŵp galwedigaethol ers 2012 a bod y newidiadau hyn wedi dod yn llai heriol o ran datblygu sgiliau.

“Yn gymharol ddiweddar, dim ond y bobl fwyaf dysgedig oedd yn defnyddiocyfrifiaduron, ond erbyn heddiw maent wedi dod yn dechnoleg diben cyffredin, a cheir hyd iddynt ym mhob sefydliad a diwydiant, fwy neu lai, gyda’r rhan fwyaf o weithwyr yn eu defnyddio”, meddai’r Athro Francis Green o’r Ganolfan ar gyfer Dysgu a Chyfleoedd Bywyd mewn Economïau Gwybodaeth a Chymdeithasau (LLAKES), Sefydliad Addysg Coleg y Brifysgol, Llundain. "Tra bod y dechnoleg hon yn cael ei chyflwyno roedd angen i bawb ddatblygu eu medrau, ond yn ystod y degawd diwethaf mae nifer yr achosion o newid technegol yn y gwaith wedi bod yn gostwng, ac ers 2012, mae’r lefel ofynnol o sgiliau llythrennedd a rhifedd yn y gwaith wedi gostwng ar gyfer y tro cyntaf."

Mae tri adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, ‘Productivity in Britain’,Skills Trends at Work in Britain’ a ‘Fairness at Work in Britain’, yn rhan o Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2017.

Rhannu’r stori hon