Ewch i’r prif gynnwys

Ansawdd bywyd gwaith ym Mhrydain

13 Rhagfyr 2016

Professor Alan Felstead

Bydd prosiect ymchwil gwerth £1m a arweinir gan Brifysgol Caerdydd yn rhoi darlun o ansawdd bywyd gwaith ym Mhrydain.

Bydd yr Athro Alan Felstead o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, yn arwain tîm ymchwil sy'n casglu ac yn dadansoddi data arolwg am sgiliau a phrofiadau gwaith y rhai sy'n gweithio ym Mhrydain yn 2017.

Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol , yr Adran Addysg a Phrifysgol Caerdydd sy'n ariannu'r arolwg a bydd 2,500-3,000 o weithwyr yn cymryd rhan ynddo. Mewn cyfweliadau wyneb yn wyneb, byddant yn ateb cwestiynau am beth maent yn ei wneud yn y gwaith.

Bydd y data a gaiff ei gasglu yn helpu i gofnodi ac egluro sut mae ansawdd a sgiliau swyddi yn newid dros amser, a bydd yn adnodd gwerthfawr i'w ddefnyddio yn y dyfodol.

Dywedodd yr Athro Felstead: "Rydym yn byw mewn oes llawn newidiadau cyson a chyflym, yn wleidyddol ac yn economaidd.  Bydd y prosiect hwn yn rhoi data cadarn ac unigryw am beth allai hyn ei olygu i bobl sy'n gweithio pe byddai eu swyddi naill ai o dan fygythiad neu'n cael eu newid mewn rhyw ffordd yn sgîl y newidiadau i'r hinsawdd economaidd, cyflwyno technoleg neu ffyrdd gwahanol o drefnu gwaith.  Bydd yr arolwg yn rhoi rhywfaint o'r atebion i ni ac yn ein galluogi i asesu ac egluro sut mae gwaith wedi newid dros y 30 mlynedd ddiwethaf."

Bydd yr Athro Felstead yn arwain tîm o ymchwilwyr, gan gynnwys yr Athro Francis Green (Coleg Prifysgol Llundain) a'r Athro Duncan Gallie (Rhydychen) sydd wedi bod yn cydweithio ag ef ers cryn amser, a bydd Dr Golo Henseke (Coleg Prifysgol Llundain) yn eu cynorthwyo.  Cynhelir y prosiect mewn cydweithrediad â Chanolfan Dysgu a Chyfleoedd Bywyd mewn Economïau Gwybodaeth (LLAKES) ESRC, a Sefydliad Addysg UCL, Llundain.

Dyma'r 14eg grant ESRC y mae'r Athro Felstad wedi'i ennill, ac mae'r chweched y mae wedi'i sicrhau yn ystod y pedair blynedd diwethaf.  Bydd y prosiect yn dechrau cyflwyno canlyniadau yng nghanol 2018.

Rhannu’r stori hon

Rhagorwn mewn ymchwil ryngddisgyblaethol sydd â ffocws clir ar bolisi.