Ewch i’r prif gynnwys

Cyfradd boddhad myfyrwyr yn 98%

16 Awst 2018

Violin on top of music scores

Mae'r Ysgol Gerddoriaeth wedi llwyddo i gael cyfradd boddhad cyffredinol ragorol o 98% yn yr Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS) diweddaraf.

Cyhoeddir Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn flynyddol, ac mae'n arolygu myfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn olaf ac yn gofyn iddynt asesu eu profiadau yn y Brifysgol mewn meysydd sy’n cynnwys safon addysgu, cefnogaeth academaidd a datblygiad personol.

Mae'r sgôr wych hon yn gosod Prifysgol Caerdydd ar frig prifysgolion Grŵp Russell, grŵp o 24 o brifysgolion blaenllaw yn y DU, ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr Cerddoriaeth.

Yn ogystal â'r gyfradd boddhad cyffredinol wych, cytunodd 100% o ymatebwyr eu bod wedi gallu cael gafael ar offer arbenigol, cyfleusterau neu ystafelloedd pan oedd angen.

Mae'r Ysgol Gerddoriaeth yn gartref i fwy na dau ddwsin o ystafelloedd ymarfer, tair ystafell ensemble a phedair stiwdio electroacwstig sy'n cyrraedd safonau’r diwydiant, yn ogystal â neuadd gyngerdd sy'n dal 250 o bobl.

Ymhlith 69 o sefydliadau sy'n cynnig gradd Cerddoriaeth, cyrhaeddodd yr Ysgol Gerddoriaeth y 4ydd safle am Brofiad y Myfyrwyr.

Rydym yn cynnig cyfle i'n myfyrwyr berfformio gydag amrywiaeth o ensembles cerddorol dan arweiniad yr Ysgol, ynghyd â dros 15 grŵp dan arweiniad Myfyrwyr. Mae ein myfyrwyr hefyd yn elwa o amserlen brysur o berfformiadau proffesiynol, gweithdai a digwyddiadau a gynhelir yn ein Neuadd Gyngerdd drwy gydol y flwyddyn, ynghyd â chyngherddau a pherfformiadau a drefnir gan ein corff myfyrwyr.

Mae'r canlyniad hwn yn dilyn y cyhoeddiad diweddar bod 100% o raddedigion yr Ysgol yn 2017 naill ai mewn cyflogaeth a/neu mewn astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio.

Dywedodd yr Athro Kenneth Hamilton, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth: "Mae'r canlyniad rhagorol hwn yn dangos bod gennym gymuned gerddorol gefnogol ac ysgogol sydd wedi’i chreu gan y myfyrwyr a’r staff yn yr Ysgol Gerddoriaeth."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.