Ewch i’r prif gynnwys

Ysbrydoli cerddorion ifanc

3 Awst 2018

Students from Goresbrook School performing at Cardiff University School of Music

Yn ddiweddar, daeth disgyblion o Ysgol Goresbrook, Dagenham, ar ymweliad â’r Ysgol Gerddoriaeth ar gyfer diwrnod o weithdai a sesiynau recordio.

Ymunodd Band Mawr a Cherddorfa Jazz yr Ysgol â ni ar gyfer diwrnod o gerddoriaeth ryngweithiol gyffrous gyda myfyrwyr yn yr Ysgol Gerddoriaeth.  Bu’r myfyrwyr yn mwynhau perfformiad anffurfiol gan ensemble staff a myfyrwyr yr Ysgol Gerddoriaeth, ‘Infamous 5’, teithiau o amgylch cyfleusterau’r Ysgol ac Undeb y Myfyrwyr, darlith gan Dr Dan Bickerton, a gweithdy gwaith byrfyfyr cyffrous dan arweiniad y myfyriwr MA Matthew Lush, a chan gynnwys myfyrwyr Cerddoriaeth cyfredol o bob grŵp blwyddyn.

Students from Goresbrook Primary perform at Cardiff University School of Music

Trefnwyd y digwyddiad gan Dr Dan Bickerton, Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig, mewn cydweithrediad ag Alex Davis, un o’n cyn-fyfyrwyr, sydd bellach yn Athro Arbenigol yn y Celfyddydau Perfformio yn Goresbrook. Graddiodd Alex gyda gradd BMus yn 2015, a chwblhaodd ei MA mewn Cerddoriaeth yn 2017.

O dan arweiniad Alex, mae Ysgol Goresbrook wedi ffurfio cyfres o ensemblau jazz a luniwyd i gyflwyno pob disgybl i berfformiad offerynnol, ac yn ddiweddar dyfarnwyd grant iddynt gan Sefydliad Andrew Lloyd Webber i gynorthwyo eu perfformiadau cerddoriaeth. Roedd yr holl fyfyrwyr a fu’n rhan o’r diwrnod yn dod o Flynyddoedd 7 ac 8, ac wedi bod yn chwarae eu hofferynnau am lai na blwyddyn.

Students from Goresbrook School performing music with student Matt Lush at Cardiff University School of Music

Daeth y diwrnod i ben gyda recordiad o EP sy'n cynnwys Ensembles Jazz Goresbrook, dan oruchwyliaeth Chris Davis a raddiodd yn ddiweddar (BMus 2018) a Rheolwr Technegol yr Ysgol, Mr Andrew Mabey.

Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Alex Davis: "Rhoddodd Prifysgol Caerdydd gyfle anhygoel i ni roi blas o fywyd gwaith cerddor i’n myfyrwyr.  Roedd y broses recordio yn broffesiynol, a chafodd y myfyrwyr gyfle i berfformio a gweithio mewn gofod perfformio dilys.  I fyfyrwyr oedd yn dal yn eu blwyddyn gyntaf o ddysgu cerddorol, roedd hwn yn gyfle unwaith mewn oes."

Dywedodd dau o’r myfyrwyr ddaeth ar yr ymweliad:

"Roedd yn brofiad gwych perfformio mewn stiwdio recordio go iawn ac yn anhygoel gweld yr opsiynau fydd o mlaen i." (Jack, blwyddyn 8, sacsoffon)

“Roedd Prifysgol Caerdydd yn anferth! Mae’r daith wedi fy ysbrydoli i wneud cymaint mwy o gerddoriaeth; roedd yn gymaint o hwyl cael defnyddio’r cyfleusterau.”  (Victoria, Blwyddyn 7, sacsoffon)

Rwy’n falch iawn o’r cydweithio llwyddiannus rhwng Ysgol Goresbrook ac Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd. O gofio mai dim ond ers rhyw 11 mis mae disgyblion Goresbrook wedi bod yn perfformio, roedd y cyfle rhyfeddol a grewyd gan Alex i’r myfyrwyr hyn yn ysgubol, fel yr oedd y safon a gyflawnwyd eisoes. Roedd yn bleser cael bod yn rhan o'u taith gerddorol a chyflwyno cerddorion ifanc i fywyd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dr Daniel Bickerton Senior Lecturer and Director of Learning and Teaching

"Yr oeddwn wrth fy modd yn gweld ein myfyrwyr yn cymysgu ac yn gweithio mor dda i gefnogi ensembles Goresbrook. Rwy’n gobeithio y byddwn ni’n gallu parhau â’r bartneriaeth hon yn y dyfodol agos.  Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran!”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.