Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth yn cael canmoliaeth KTP am fod yn 'rhagorol'

15 Mai 2018

Aris Syntetos
Aris Syntetos

Mae Prifysgol Caerdydd a Panalpina wedi cael ail lwyddiant 'rhagorol' trosglwyddo gwybodaeth.

Bum mlynedd yn ôl ffurfiodd y cwmni logisteg byd-eang bartneriaeth ag Ysgol Busnes Caerdydd i greu rhestrau stoc mwy effeithlon.

Cymaint fu llwyddiant y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP), cafodd ei hadnewyddu i ganolbwyntio ar dechnolegau gweithgynhyrchu newydd fel rhestrau sy'n defnyddio dull argraffu 3D.

O ganlyniad i'r prosiect estynedig, a ddechreuodd yn 2016, dyblodd Panalpina ei fuddsoddiad yn y bartneriaeth i helpu cwsmeriaid i ganfod cynhyrchion addas ar gyfer pontio i dechnegau gweithgynhyrchu megis argraffu 3D.

"Mae'r prosiect cyfan wedi bod yn hynod lwyddiannus," meddai'r Athro Aris Syntetos, Athro Cadeiriol Panalpina mewn Gweithgynhyrchu a Logisteg yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae'r gwaith wedi cael cydnabyddiaeth am fod yn 'rhagorol' mewn llythyr gan Innovate UK – adran Llywodraeth y DU sydd wedi datblygu partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth ledled y DU ers dros 40 blynedd.

Cyflawnwyd y prosiect diolch i waith caled cymrodorion ymchwil Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP), Fevos Charalampidis a Rishi (Hrishikesh) Pawar. Yn eu goruchwylio yr oedd Dr Xun (Paul) Wang a Dr Franck Lacan o Ysgol Peirianneg Caerdydd.

Meddai Fevos: "Roedd y KTP yn cynnig y cyfle pontio gorau posibl i mi o'm hastudiaethau i'r diwydiant. Roedd yn brosiect cyffrous a heriol iawn o'r cychwyn cyntaf gan ei fod hefyd yn fenter newydd i Panalpina. Prif her y prosiect oedd datblygu datrysiad a oedd yn cyfuno trylwyredd academaidd ac ymarferoldeb diwydiannol ymarferoldeb, a oedd hefyd yn darparu profiad dysgu amhrisiadwy."

Ychwanegodd Rishi: "Roedd yn gyfle gwych i mi fel myfyriwr graddedig ffres – ac yn arbennig o gyffrous gan mai cyfyng oedd yr ymchwil a oedd wedi’i gynnal ar y pwnc hwn. Roedd yr heriau yr oeddem yn eu hwynebu yn gyffredin i lawer o ddiwydiannau, felly roedd dod o hyd i ateb sy'n ddefnyddiol mewn bywyd go iawn yn arbennig o foddhaus."

Fevos and Rishi
Fevos Charalampidis and Rishi (Hrishikesh) Pawar

Dywedodd Paul Thomas, Rheolwr Busnes yn y Gwasanaethau Ymchwil, Arloesedd a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae hon yn stori llwyddiant arall yn ein hanes hir o weithio gyda chwmnïau drwy gynllun KTP.

"Mae'r Brifysgol wedi ffurfio dros 200 o bartneriaethau gyda sefydliadau bach a byd-eang ers i'r cynllun ddechrau yn y 1970au, gan ychwanegu gwerth gwirioneddol at ddiwydiant ac economi'r DU. Rydym wedi helpu ein partneriaid KTP i fynd i'r afael â nifer o broblemau, gan gynnwys hybu cynhyrchedd neu drawsnewid strategaethau a datblygu arloesedd.

Erbyn hyn mae Panalpina yn cynnig gwasanaeth rhagolygon ac argraffu 3D i gwsmeriaid, ac yn cefnogi Canolfan Panalpina ar gyfer Ymchwil Gweithgynhyrchu a Logisteg yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae'r bartneriaeth yn cynnig manteision i'r Brifysgol o ran nawdd ac arian yn ogystal â thrwy gynnig astudiaethau achos 'go iawn'. Caiff y rhain eu defnyddio yn ein cyrsiau ôl-raddedig gan gynnig blas o fyd busnes i ymchwilwyr.

https://www.youtube.com/watch?v=GZA-GlHwdmw

Rhannu’r stori hon