Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau Arwain Cymru

11 Gorffennaf 2018

Portrait of Professor Martin Kitchener
Professor Kitchener has pioneered a unique public value strategy which seeks to deliver social improvement alongside economic development

Mae'r Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd, ar y rhestr fer yng nghategori Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus Gwobrau Arwain Cymru 2018.

Mae gwobrau hyn sydd ar gyfer Cymru gyfan, mewn cydweithrediad â Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, yn cael eu cynnal am y bedwaredd flwyddyn ar ddeg. Eu nod yw amlygu, cydnabod a dathlu cyflawniad personol o ran arweinyddiaeth ragorol yng Nghymru.

Mae'r Athro Kitchener, a ddaeth yn Deon Ysgol Busnes Caerdydd yn 2012, wedi arloesi strategaeth unigryw gwerth cyhoeddus sy'n ceisio sicrhau gwelliant cymdeithasol ochr yn ochr â datblygiad economaidd ar draws gweithgareddau craidd yr Ysgol o ymchwil ac ymgysylltu,dysgu ac addysgu a hunan-lywodraethu.

Dywedodd yr Athro Kitchener: “Braint o’r mwyaf yw cael fy nghydnabod gan Wobrau Arwain Cymru a'u consortiwm o bartneriaid mawreddog.

“Mae'r rhestr fer yn cymeradwyo'r egwyddorion a amlinellir yn ein strategaeth gwerth cyhoeddus. Heb os, hyn sydd wedi ysgogi ein dyheadau fel Ysgol yn ystod fy nghyfnod wrth y llyw...”

“Gyda chymorth Cyfadran ragorol, rydym wedi llwyddo i weithredu rhaglen addysg, ymchwil a llywodraethu busnes a nodweddir gan ragoriaeth. Hoffwn ddiolch i fy nghydweithwyr a fy ffrindiau yn Ysgol Busnes Caerdydd a thu hwnt sydd wedi cefnogi fy arweinyddiaeth.”

Yr Athro Martin Kitchener Athro Rheolaeth a Pholisi’r Sector Cyhoeddus

Bydd y beirniaid yn dod ynghyd i drafod ddydd Iau 12 Gorffennaf 2018, a chyhoeddir yr enillwyr yn y Cinio a’r Seremoni Wobrwyo ddydd Iau 27 Medi 2018.

Mae rhestr lawn o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar draws yr wyth categori i’w gweld ar wefan Gwobrau Arwain Cymru.

Rhannu’r stori hon

Rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn ymgorffori ein strategaeth gwerth cyhoeddus ar draws ein hymchwil, ein dysgu a'n llywodraethu.